Cefndir a phwrpas Bwrdd Busnes yr Urdd
Mae rheolaeth ariannol gref yn hanfodol i elusennau ac mae rôl y Bwrdd Busnes yn goruchwylio’r materion ariannol yn chwarae rhan allweddol yn strwythur llywodraethiant yr Urdd. Mae diogelu sefyllfa ariannol yr elusen, goruchwylio’r defnydd o adnoddau ariannol a phenderfyniadau buddsoddi’r elusen yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gan yr elusen yr adnoddau i gyflawni ei hamcanion wrth barhau i ddiogelu fod gweithgareddau’r elusen yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Cyfrifoldebau'r Bwrdd Busnes
- Adolygu cyfrifon rheoli chwarterol a chyllidebau adrannol blynyddol
- Adolygu y cyfrifon statudol blynyddol i rhoi sicrwydd i'r Pwyllgor Archwilio a Risg bod y wybodaeth ariannol yn gyson gyda’r cyfrifon rheoli
- Goruchwylio portffolio eiddo'r Urdd
- Cymeradwyo a monitro prosiectau cyfalaf
- Monitro perfformiad buddsoddi ac argymell newidiadau
- Cymeradwyo ceisiadau gwariant busnes o gronfeydd wrth gefn
- Adolygu a goruchwylio polisïau ariannol yr Urdd
Rydym am apwyntio 3 aelod ychwanegol i'r Bwrdd Busnes
Rydym yn chwilio am ystod amrywiol o sgiliau a phrofiadau, ac yn croesawu ymgeiswyr sy'n bodloni un neu fwy o'r meini prawf isod:
- Cymwysterau ariannol neu yn astudio at gymwysterau ariannol
- Aelod o gorff proffesiynol ariannol
- Profiad o reoli cyllid
- Profiad o reoli prosiectau e.e. cyfalaf
- Arbenigedd / profiad rheoli buddsoddiadau
- Profiad o ddatblygu eiddo
- Profiad o reoli adran ariannol