Wedi Diweddaru -Medi 2024*
Arweinyddion Urdd Gobaith Cymru
Croeso i'r dudalen Arweinyddion ar gyfer 2024-2025.
Mae 'na lu o adnoddau ar ochr dde'r dudalen yma i'ch cynorthwyo gyda chynnal eich Adran/Uwch-Adran neu Aelwyd.
Mae'n cynnwys Asesiadau Risg - cofiwch ychwanegu'r darnau 'Safle Sbesific'.
Bydd angen cwblhau'r ffurflen 'Cais i Gynnal Gweithgaredd' cyn unrhyw weithgaredd sydd ddim yn digwydd ar eich safle cyfarfod arferol - cofiwch na fydd yswiriant yr urdd yn eich diogelu os nad ydych yn gwneud hyn.
Hyfforddiant, Bydd hefyd angen i bob Arweinydd gwblhau tri cwrs hyfforddi erbyn Hydref 30 2025. Mae'r cyrsiau am ddim, ar lein a ddylai'r tri cwrs ddim cymryd fwy nag awr i'w cwblhau. Mae'n orfodol i bob arweinydd gwblhau'r cyrsiau erbyn Hydref 30ain er mwyn eich diogelu chi fel Arweinyddion, petai damwain neu digwyddiad yn digwydd.
Cofiwch fod 'na rwydwaith o Swyddogion yn gweithio hyd alled y wlad i'ch cynorthwyo, am fwy o wybodaeth am eich swyddog lleol ewch i www.urdd.cymru/fy-ardal.
Gyda diolch am eich holl waith
Tîm yr Urdd

Hyfforddiant Diogelu
Cliciwch yma i gwblhau'r hyfforddiant
Hyfforddiant Asesu Risg
Cliciwch yma i gwblhau'r hyfforddiant