Yn dilyn nifer o drafodaethau mewnol, mae Adran Chwaraeon yr Urdd a Chadeirydd y Bwrdd Chwaraeon wedi penderfynu gohirio Galâu Nofio yr Urdd eleni (2022/23).
Mae sawl ffactor allweddol wedi cyfrannu at y penderfyniad anodd yma ac rydym yn ymddiheuro i’n haelodau am y sefyllfa. Mi fydd arolwg llawn o fformat y cystadlaethau yn cael ei gynnal yn y flwyddyn newydd gyda’r nod o weld y cystadlaethau’n dychwelyd yn nhymor 2023/24.
Os yw unigolyn wedi ymaelodi gyda’r Urdd gyda’r prif bwrpas o gystadlu yn y cystadlaethau yma, gellir trafod ad-daliad am aelodaeth 2022/2023 drwy e-bostio aelodaeth@urdd.org