Gemau Cymru yw’r prif ddigwyddiad dwyieithog ar gyfer pobl ifanc yng nghalendr chwaraeon Cymru, sy’n hybu llwybrau chwaraeon Cymru.
Y weledigaeth ar gyfer Gemau Cymru yw ysbrydoli pobl ifanc Cymru i barhau â’u dysgu a’u datblygiad fel athletwyr a dinasyddion. Mae Gemau Cymru yn rhoi profiad cadarnhaol i bobl ifanc dalentog o ddigwyddiad aml-chwaraeon cynhwysol trwy gystadleuaeth chwaraeon berthnasol a phentref athletwyr.