Gwyliau i bobl ifanc sy'n chwilio am antur yn un o leoliadau gwefreiddiol gogledd Cymru

 

Wedi ei lleoli ar lannau Llyn Tegid, mae gwersyll Glan-llyn yn arbenigo mewn gweithgareddau awyr agored o ansawdd uchel.

Does unman y debyg i Lan-llyn ar wyliau Anturdd Fawr. Beth gwell na llond gwersyll o bobl ifanc o bob cwr o Gymru yn mwynhau'r gweithgareddau ar y llyn, a hynny i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Byddwch yn canŵio, yn SUP'io, yn adeiladu rafft, yn nofio, yn bowlio, yn dringo, yn saethu bwa saeth, yn profi’ch dewder ar y cwrs rhaffau, yn canu, ac yn dawnsio. Mae Gwersyll Haf yng Nglan-llyn yn ffordd wych i wneud ffrindiau am byth.

Mae’r pris yn cynnwys gwyliau llawn gweithgareddau, pedwar pryd bwyd y dydd ac ystafelloedd en suite. Gellir trefnu cludiant am bris ychwanegol.

Ar gyfer pwy?

Mae hwn yn wersyll haf sy'n addas ar gyfer plant blynyddoedd 7-8. Cymraeg yw iaith y cwrs.

Pryd mae'r gwersyll haf yn dechrau?

Dydd Llun 28 Gorffennaf tan ddydd Gwener 1 Awst 2025

Pa mor hir mae'n para?

5 diwrnod, 4 noson

Pris

£280 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.

Cynllun talu rhandaliadau ar gael.

Bws

Gellir darparu bws am gost ychwanegol

Llety

Ystafell wely “en-suite” sydd yn cysgu hyd at ddau, pedwar, chwech

Cyfleusterau

Mae cyfleusterau te a choffi ar gael drwy gydol y dydd, gyda lolfa bwrpasol ar gyfer bob bloc llety er mwyn ymlacio gyda’r nos. Mae cysylltiad i’r wi-fi ar gael ar draws y safle. 

Bwyd

Bydd brecwast, cinio, te a swper ar gael gan gynnig dewisiadau iachus a phrydau bwyd maethlon. Defnyddir cyflenwyr a chynnyrch lleol lle mae hynny’n bosib. Gallwn ddarparu ar gyfer anghenion dietegol, alergeddau, cefndir diwylliannol a chredoau crefyddol.

 

Enghraifft o ddiwrnod

AmserlenGweithgaredd
Brecwast Brecwast i bawb - bacwn, ffa pob, tôst, jam a mwy - eich dewis chi
Bore Bore llawn antur yn gwneud gweithgareddau sych - cwrs rhaffau a dringo
Cinio Cyfle i adennill egni ar gyfer gweithgareddau'r prynhawn!
Prynhawn Prynhawn gwlyb ar y llyn yn ceufadu a rhwyfyrddio
Te Amser i ymlacio, sgwrsio a bwyta
Ar ôl te Saethyddiaeth
Swper Digonedd o fwyd ar ôl diwrnod prysur
Ar ôl swper Pawb yn dod at ei gilydd am Noson Dalent, Sioe Adar neu dangos eich symudiadau yn y disgo

*Enghraifft yw'r amserlen hon. Caiff y rhaglen derfynol ei chynllunio yn nes at yr amser.