Os ydych chi’n adnabod unigolyn sydd wedi gwneud gwaith heb ei ail gyda phobl ifanc dros y blynyddoedd, anogir chi i’w enwebu.

Gall fod yn ymwneud ag unrhyw agwedd o waith ieuenctid, cyn belled â’i fod yn waith wyneb yn wyneb gyda phobl ifanc dros 11 oed, yn wirfoddol a thu allan i oriau ysgol.

Rhaid i’r gwaith fod drwy gyfrwng y Gymraeg, neu gydag ieuenctid sy’n dysgu’r iaith. Gall hefyd fod gydag unrhyw fudiad ieuenctid. Mae rhestr llawn o'r rheolau ar gael i'w ddarllen yma.

Rhoddir Gwobr John a Ceridwen Hughes gan Dewi a Gerallt Hughes er cof am eu rhieni, John a Ceridwen, oedd yn weithgar iawn ym maes ieuenctid.

Llenwch y ffurflen isod ar y dudalen yma cyb y dyddiad cau gyda manylion yr unigolyn rydych chi'n eu henwebu, eich rhesymau dros yr enwebiad, a'ch manylion chi. Neu, lawrlwythwch ffurflen enwebu i'w phostio.

Os ydych yn cael problemau yna ebostiwch eisteddfod@urdd.org

Dyddiad cau: 12yp, 28ain o Chwefror 2024

Y Ffurflen Enwebu