Edrychwn ymlaen yn hyderus at y ganrif nesaf drwy sicrhau Urdd i Bawb i holl blant a phobl ifanc Cymru.
Anelwn i sicrhau bod yr Urdd yn perthyn i bawb, a bod ein gwasanaethau’n parhau i fod yn gyfoes ac yn adlewyrchu anghenion Cymry ifanc heddiw.
Rydym am sicrhau bod ein gwasanaethau’n ymestyn allan ac yn agored i blant a phobl ifanc ag anableddau, sy’n perthyn i’r gymuned LHDTC+, a ddaw o gefndiroedd diwylliannol amrywiol, o ardaloedd difreintiedig, ynghyd â’r rheiny sy’n siaradwyr Cymraeg newydd.
Darllenwch ein Cynllun Strategol