Dewch i aros gyda ni i gefnogi ein gwaith!

Dyma gyfle i fwynhau popeth sydd gan Pentre Ifan i’w gynnig, yn ogystal a chyfrannu at waith yr Urdd o ddarparu cyfleoedd gwych a phwysig i blant a phobl ifanc Cymru.

 Crwydrwch ar hyd lwybr Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gan edrych am fywyd gwyllt y môr neu cerddwch Ffordd Euraidd y Preseli gan fwynhau'r golygfeydd godidog. Ar stepen drws y gwersyll gallwch fynd am dro trwy Goedwig Tŷ Canol a Phentre Ifan. Ar ddiwedd y dydd, mwynhewch sesiwn syllu ar y sêr o amgylch tân y gwersyll gyda phaned blasus o siocled poeth.

Mae amryw o atyniadau yn yr ardal y gallwch ymweld a nhw, gan gynnwys Pentref Oes Haearn Castell Henllys, Fferm Ceffylau Gwedd Dyfed, Canolfan Bywyd Gwyllt Cilgerran, Llyn Llys-y-frân a llawer mwy!

Rydym wedi lleoli’n berffaith rhwng trefi poblogaidd Trefdraeth ac Aberteifi lle mae bwytai blasus, thafarndai clyd a digon o siopau!

Mae ystafelloedd ensuite Cwt Carningli yn cysgu 7 i 9 person yr ystafell, gyda phrisiau yn dechrau o £120 yr ystafell y noson. Neu os oes grŵp ohonoch chi eisiau aros, gallwch chi logi’r safle cyfan! Rydym hefyd yn cynnig brecwast cyfandirol am £5.50 y pen.

Felly beth amdani? Archebwch eich dihangfa heddiw trwy anfon e-bost at pentreifan@urdd.org