Nofio gyda’r Urdd

Mae’r Urdd yn cynnig llawer o gyfleoedd nofio Cymraeg i blant a phobl ifanc o bob oedran a gallu ar draws De Cymru.

P’un a yw eich plentyn yn newydd i’r dŵr neu’n awyddus i wella ei sgiliau nofio, mae ein rhaglenni’n cynnig amgylchedd cyfeillgar, diogel a chynhwysol lle gall pawb ddysgu, magu hyder a mwynhau bod yn y dŵr.

Gwersi Nofio

Mae’r Urdd yn cynnig gwersi nofio drwy Fframwaith Dysgu Nofio, Nofio Cymru – o Sblash 6 hyd at Don 8. Mae’r gwersi’n helpu plant a phobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau cam wrth gam, o fagu hyder yn y dŵr i ddod yn nofwyr hyderus.
Drwy gydol y daith, bydd cyfranogwyr yn dysgu sgiliau pwysig ar gyfer bod yn ddiogel yn y dŵr, cael hwyl a mwynhau nofio fel rhan o fywyd iach ac egnïol.

Pa lefel yw eich plentyn

Ddim yn siŵr pa lefel nofio yw eich plentyn? Edrychwch ar y canllaw isod i ddod o hyd i’r lefel fwyaf addas.

Canllaw Lefelau Nofio
Amserlen Wythnosol

Edrychwch ar ein hamserlen wythnosol i ddod o hyd i amseroedd gwersi a chynllunio sesiynau nofio eich plentyn.

Amserlen Wythnosol
Bwcio Gwers

Barod i ddechrau? Archebwch wersi nofio eich plentyn drwy ymweld â’n tudalen archebu ar-lein.

Cofrestrwch Nawr

Cysylltwch â ni

Oes gennych chi gwestiwn am wersi nofio, bwcio, neu lefelau nofio? Mae ein tîm yma i helpu.