Amdanom ni

Mae ein canolfan addysg awyr agored o fewn Parc Cenedlaethol Eryri yn cynnig cyrsiau a gweithgareddau anturus i ysgolion, colegau, prifysgolion, mudiadau, grwpiau ieuenctid, cwmnïau a theuluoedd fel ei gilydd.

  • Lleoliad: Ger Y Bala, Gwynedd
  • Cysgu: 240
  • Arbenigo mewn: gweithgareddau awyr agored
  • Ymweliadau: Llun-Gwener a penwythnos ar gael

Tro o amgylch Glan-llyn

Cliciwch yma am daith rithiol o Lan-llyn!

Taith Rithiol

Llety hunan-arlwyo

O lannau Llyn Tegid i arfordir godidog Sir Benfro, mae amrywiaeth o lety hunan-arlwyo gan yr Urdd – o adeiladau cyfforddus ar gyfer grwpiau mawr i brofiadau gwersylla a glampio cofiadwy.

Dysgu mwy

Pecyn corfforaethol

Dewch i glywed mwy am y pecynnau corfforaethol sydd ar gael i chi.

Sut i’n cyrraedd

Saif Gwersyll Glan-llyn ar yr A494 wrth ymyl Llyn Tegid, 4 milltir o dre’r Bala ac 1 milltir o bentref Llanuwchllyn.

📍 Cyfeiriad
Gwersyll yr Urdd Glan-llyn, Llanuwchllyn, Y Bala, Gwynedd, LL23 7ST

🗺️ what3words
///goleuad.waltsio.golygfeydd

📍 Agor Google Maps

Cysylltwch â ni

Awydd ymweld â ni’n Glan-llyn?

Ffoniwch ni ar 01678 541000 neu e-bostiwch â chroeso!

Urdd - Llangrannog

Ein gwersylloedd

O lannau Llyn Tegid i arfordir Ceredigion, o Fryniau Preseli i Fae Caerdydd, mae ein gwersylloedd yn cynnig profiadau preswyl mewn rhai o leoliadau mwyaf arbennig Cymru.