Eich ymweliad

Arhoswch gyda’ch gilydd mewn llety hunangynhwysol, gyda golygfeydd dros Lyn Tegid ac anturiaethau awyr agored Eryri ar garreg eich drws.

Gellir trefnu arhosiad yn Glan-llyn Isa’ sy’n hyblyg i chi. Mae’r lleoliad yn berffaith addas ar gyfer gweithgareddau awyr agored sy’n manteisio ar adnoddau naturiol yr ardal, neu’n addas ar gyfer arhosiad preswyl yn unig.

Byddai croeso i chi fanteisio ar amrywiol weithgareddau Gwersyll Glan-llyn, gan gynnwys: Dringo, Cwrs rhaffau, Saethyddiaeth, Adeiladu rafft, Canwio, Cerdded afon, Cyfeiriannu, Datrys problemau, Padl fyrddio, Gwylltgrefft, Nofio, Teithiau cerdded.

Taith Rhithiol Glan-llyn Isa

Cymerwch daith rhithiol o’r safle cyn archebu eich arhosiad.

Taith Rhithiol

Llety a Chyfleusterau

Mae Glan-llyn Isa yn lety modern, hunan-ddarpar sy’n ddigon agos i fanteisio ar adnoddau prif wersyll Glan-llyn ond hefyd yn medru cynnig y profiad o lety anibynnol.

Mae llety ar gyfer 40 person yng Nglan-llyn Isa’, wedi eu rhannu i 10 ystafell wely, 4 llofft ar y llawr gwaelod a 6 llofft ar y llawr cyntaf.

Mae toiledau a chawodydd yn cael eu rhannu, ac wedi eu lleoli ar y ddau lawr. Mae’r gwlâu yn gyfuniad o wlâu sengl, gwlâu bync a 4 gwely dwbl, a’r ystafelloedd yn amrywio o ystafelloedd sengl i ystafelloedd 8 gwely.

Mae cyfleusterau cegin yng Nglan-llyn Isa’ sy’n addas ar gyfer gwasanaeth arlwyo neu drefniant hunan-arlwyo, ac mae Lolfa Prys yn ardal gymunedol â lle i 36 person i fwyta ac ymlacio. Mae teledu a llosgwr coed yn y lolfa, ac mae WIFi trwy’r ganolfan gyfan.

Mae gardd eang yng nghefn y tŷ sy’n cynnwys ardaloedd cysgodol i eistedd, ardal fwyta, cegin awyr agored sy’n cynnwys popty pizza, crochan, barbeciw, oergell a sinc, yn ogystal â golygfeydd bendigedig o’r ardal leol.

Mae ardal barcio o flaen y tŷ ar gyfer ceir a bysiau mini, ond gofynnir i ymwelwyr gofrestru yng Ngwersyll Glan-llyn yn gyntaf cyn symud ymlaen i Lan-llyn Isa.

Mae Caban Sychu Dillad, Storfa Fagiau a Storfa Offer Awyr Agored ar gael i chi ddefnyddio.

Hanes

Hyd at y 1940au roedd tai a ffermydd ardal Llanuwchllyn yn rhan o Stad Glan-llyn oedd yn eiddo i Syr Watkin Williams Wynne. Roedd Plas Glan-llyn yn cael ei ddefnyddio fel ‘shooting lodge’ gan ffrindiau Syr Watkin, gyda’r byddigion yn cael eu cludo ar y tren o’r stad yn Rhiwabon a glanio yn y Flag Station gyferbyn a’r Gwersyll. Roedd Glan-llyn Isa yn gartref i stiward y stad, y mwyaf diweddar ohonynt yn ddynes o’r enw Miss Cotton sydd yn cael ei chofio yn lleol fel rhywun yn gwisgo dillad ‘dynion’ – ‘plus fours’ a ‘het deerstalker’. Dyma lle byddai tenantiaid y stad yn mynd i dalu rhent.

Pan ddaeth Glan-llyn i ofal Urdd Gobaith Cymru yn y 1950au fe ddefnyddiwyd Glan-llyn Isa fel llety ar gyfer bechgyn (gyda’r merched yn cysgu yn y Plas), ac yna o’r 1960au ymlaen fe ddefnyddiwyd Glan-llyn Isa yn gartref i benaethiaid Glan-llyn a’u teuluoedd, gyda’r adeilad wedi ei rannu yn ddwy fflat. O tua 1990 ymlaen bu’r adeilad yn lety i ddegau o staff gweithgareddau y Gwersyll.

Yn dilyn datblygiadau a gwblhawyd yn 2020 mae Glan-llyn Isa yn ganolfan hunan-ddarpar – yn ddigon agos i fanteisio ar adnoddau y prif wersyll ond hefyd ddigon arwahan i gynnig profiad o lety anibynnol.

Cysylltwch â ni

Ar gael ar gyfer ymweliadau dydd a phreswyl. Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion a’ch cyllideb.

Urdd - Llangrannog

Ein gwersylloedd

O lannau Llyn Tegid i arfordir Ceredigion, o Fryniau Preseli i Fae Caerdydd, mae ein gwersylloedd yn cynnig profiadau preswyl mewn rhai o leoliadau mwyaf arbennig Cymru.