Blagurodd y syniad o greu Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd yn 1970au rhwng Emyr Edwards a phrif swyddog yr Urdd ar y pryd, R. E. Griffith. O’r cychwyn, y bwriad oedd rhoi cyfle i bobl ifanc gydweithio a pherfformio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ar y dechrau, roedd Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd yn gynllun blynyddol; Hydref i drefnu’r cynhyrchiad, gaeaf i gasglu actorion a phythefnos Pasg i ‘marfer a pherfformio.
Y cynhyrchiad cyntaf oedd ‘Cwymp ac Adferiad Dyn’ gan John Bowen (cyf. J.M. Edwards). Roedd 40 o actorion a thechnegwyr yn ffurfio’r cwmni cyntaf, a thua 90 o gymeriadu i’w portreadu! Perfformiwyd yn Theatr Halliwell, Neuadd Gyhoeddus Pontyberem a Theatr y Sherman.
“Credaf y gall sefydlu’r cwmni hwn o dan nawdd yr Urdd fod yn ddigwyddiad o bwys yn hanes y ddrama yng Nghymru ac fe all ddatblygu’n ffactor allweddol yn hanes y ddrama Gymraeg yn y dyfodol.” – Bob Roberts, Y Faner, Awst 1974.
Ers hynny, mae’r Cwmni wedi sbarduno gyrfaoedd, cyflwyno cynyrchiadau uchelgeisiol ac ailddyfeisio ei hun ar gyfer cenedlaethau newydd.