Ffyrdd o gystadlu, chwarae, perfformio, creu a bod yn rhan o’r Urdd.
Dewch i fwynhau profiadau bythgofiadwy yng nghanolfannau’r Urdd
Dewch am ymweliad, ddiwrnod o weithgareddau neu wyliau yn un o ganolfannau’r Urdd.
Dewch yn rhan o gymuned fwyaf ieuenctid Cymru a manteisiwch ar gyfleoedd unigryw
Darganfyddwch ffyrdd o ymwneud â’r Urdd drwy wirfoddoli, prentisiaethau a chyfleoedd gyrfa.
Dysgwch fwy am yr Urdd, ein gwerthoedd, a sut rydym yn grymuso pobl ifanc ledled Cymru
Byddwch ran o fudiad – Helpwch ni i greu mwy o gyfleoedd i blant a phobl ifanc Cymru
Lle i feddwl, amser i gysylltu a phrofiad tîm sy’n werth gadael y swyddfa amdano
Dewch â’ch pobl ynghyd yn un o leoliadau unigryw’r Urdd ledled Cymru. O sesiynau cynllunio pwrpasol a heriau tîm, i weithgareddau awyr agored a phrofiadau lles, byddwn yn eich helpu i greu diwrnod i ffwrdd â phwrpas clir.
Dewiswch raglen hanner diwrnod, diwrnod llawn neu arhosiad preswyl wedi’i llunio i weddu i’ch tîm. Mae mannau cyfarfod, arlwyo a llety ar gael mewn gwersylloedd dethol.
Wedi’i lleoli ym Mae Caerdydd, mae canolfan yr Urdd yn y ddinas yn lleoliad cyfleus ar gyfer cyfarfodydd, diwrnodau hyfforddi, cynadleddau a digwyddiadau tîm.
Wedi’i leoli ar lan Llyn Tegid ym Mharc Cenedlaethol Eryri, mae Glan-llyn yn cyfuno cyfleusterau cyfarfod â phrofiadau awyr agored cofiadwy.
Gyda’r arfordir, y coetiroedd a Bryniau’r Preseli o’i amgylch yng ngogledd Sir Benfro, mae Pentre Ifan yn cynnig lleoliad tawelach lle gall timau gymryd saib ac ailgysylltu.
Heriau ar y cyd sy’n meithrin ymddiriedaeth ac yn annog pobl i gydweithio.
Dywedwch wrthym beth hoffech i’r diwrnod ei gyflawni, eich hoff leoliad, maint bras y grŵp a’r dyddiadau posibl.
Bydd ein tîm yn eich helpu i ddewis y cyfuniad cywir o weithgareddau, amser cyfarfod, arlwyo a llety.