Ar ba antur ewch chi?

O lannau Llyn Tegid i arfordir Ceredigion, o Fryniau Preseli i Fae Caerdydd, mae ein gwersylloedd yn cynnig profiadau preswyl mewn rhai o leoliadau mwyaf arbennig Cymru

Urdd / Pentre Ifan

Mwy na lle i aros

Mae ymweliad â gwersyll yr Urdd yn gyfle i brofi rhywbeth newydd, mwynhau amser gydag eraill a darganfod rhan wahanol o Gymru.

Yn dibynnu ar y gwersyll a’r math o ymweliad, gall eich profiad gynnwys:

  • Llety i grwpiau o wahanol feintiau
  • Gweithgareddau dan do ac awyr agored
  • Prydau bwyd neu gyfleusterau hunanarlwyo
  • Rhaglenni wedi’u cynllunio ar gyfer eich grŵp
  • Mannau i ddysgu, cymdeithasu ac ymlacio
  • Cymorth gyda gofynion deietegol a hygyrchedd
Agoriad Gwersyll Pentre Ifan

Llety hunan-arlwyo

O lannau Llyn Tegid i arfordir godidog Sir Benfro, mae amrywiaeth o lety hunan-arlwyo gan yr Urdd – o adeiladau cyfforddus ar gyfer grwpiau mawr i brofiadau gwersylla a glampio cofiadwy.

Dysgu mwy

Cwestiynau cyffredin

Mae’r gwersylloedd yn croesawu ysgolion, plant a phobl ifanc, teuluoedd, grwpiau o ffrindiau, clybiau, mudiadau a grwpiau trefnedig eraill. Mae’r opsiynau’n amrywio rhwng y gwersylloedd.

Nac oes ym mhob achos. Mae’r ddarpariaeth ieithyddol yn amrywio rhwng ymweliadau, cyrsiau a gwersylloedd. Cysylltwch â’r tîm neu darllenwch fanylion y profiad unigol cyn archebu.

Oes, mae ymweliadau dydd ar gael drwy raglenni penodol. Mae argaeledd a gweithgareddau’n dibynnu ar y gwersyll.

Mae opsiynau arlwyo a hunanarlwyo ar gael, yn dibynnu ar y gwersyll a’r math o arhosiad. Dylid rhannu unrhyw alergeddau neu ofynion deietegol cyn yr ymweliad.

Ystyriwch leoliad, maint eich grŵp, oedran y cyfranogwyr a’r math o brofiad rydych ei eisiau. Gall tîm yr Urdd eich cynorthwyo i gymharu’r opsiynau.

Dilynwch y ddolen ar gyfer eich gwersyll neu fath o ymweliad, neu cysylltwch â’r tîm i drafod dyddiadau, argaeledd a phrisiau.

Ar ba antur ewch chi?

Dewiswch eich lleoliad, dewch â’ch pobl ynghyd a dechreuwch gynllunio profiad i’w gofio