Glan-llyn Isa’ Dewis gwych o lety ar gyfer grwpiau mawr, sy’n cysgu hyd at 40 (os defnyddir y gwlâu dwbwl) a chyfleusterau modern ar gyfer arhosiad cyfforddus, gan gynnwys cegin a lolfa fawr. Mae Glan-llyn Isa’ 300m i ffwrdd o’r brif safle.
Tŷ Eirys a Chwt Ifan, Glan-llyn Mae’r ddau adeilad hyn yn dod fel un pecyn, sy’n eu gwneud yn berffaith ar gyfer arosiadau grŵp mawr. Mae Tŷ Eirys yn cysgu hyd at 19 (os defnyddir gwlâu dwbl), ac mae Cwt Ifan yn adeilad ar wahân drws nesaf, gan gynnig cegin a leoliad i ymlacio.
Cae Penllyn, Glan-llyn Wedi ei leoli ar dir Gwersyll Glan-llyn mae ein hardal wersylla newydd. Dyma’r lleoliad delfrydol i dreulio’r noson wedi diwrnod prysur o weithgareddau neu’n darganfod yr ardal leol. Gallwch chi ddewis bod yn annibynnol neu gelli darparu pecyn gweithgareddau ac arlwyo llawn.
Cwt Carningli, Pentre Ifan Dyma lety newydd y safle sydd yn cynnwys 5 ystafell ensuite. Mae un o’r ystafelloedd hyn yn cynnwys cyfleusterau anabl. Cysgu: Hyd at 32 (37 os ydych chi’n defnyddio’r gwlâu dwbl am 2 person).
Y Porthdy, Pentre Ifan Dyma adeilad mwyaf hen y safle a oedd arfer fod yn borthdy Tuduraidd – mae wedi bod yn sefyll ar y safle ers 1485! Mae dwy ystafell wely ar gael yn yr adeilad yma gyda chyfleusterau ymolchi gerllaw. Cysgu: Hyd at 12.
Neuadd y Porthdy, Pentre Ifan Dyma un o ystafelloedd prydfertha’r safle lle rydych yn teimlo eich bod wedi teithio nôl mewn amser. Mae lle yn y neuadd i hyd at 50 i fwyta, ymlacio a chymryd rhan mewn gweithdai a gweithgareddau.
Y Berllan, Pentre Ifan Am brofiad ychydig yn wahanol beth am aros mewn pabell safari yn ardal glampio Perllan Pentre Ifan, gan fwynhau golygfa odidog o’r goedwig a Charnedd Meibion Owen o’ch feranda. Mae tair pabell ar gael, dwy sydd yn gallu cysgu 10 yr un ac un babell yn cysgu hyd at 6 gyda chyfleusterau ymolchi ac ardal goginio gyfagos. Cysgu: Hyd at 26.