Bob mis Mai yn ddi-dor ers 1922…
… mae Neges Heddwch wedi ei anfon ar ran bobl ifanc Cymru i bobl ifanc y byd.
Mae’r Neges yn cael ei chreu, a’i rhannu, yn flynyddol gan bobl ifanc Cymru. Ei bwriad yw uno plant a phobl ifanc ar draws y byd er mwyn ysgogi ac ysbrydoli gweithgarwch dyngarol a rhyngwladol.
Cymru yw’r unig wlad yn y byd sydd wedi llwyddo i wneud hyn, gan oresgyn rhyfeloedd byd a newidiadau mawr yn ein dull o gyfathrebu.