Tlodi
Roedd Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2025 yn canolbwyntio ar Dlodi.
Gyda’r argyfwng tlodi plant presennol i’w weld yng Nghymru ac ar draws y byd, dewisodd yr Urdd a phobl ifanc Cymru i ganolbwyntio ar y mater hollbwysig hwn.
Gydag un ym mhob tri o blant a phobl ifanc Cymru yn byw mewn tlodi, roedd y Neges Heddwch yn datgan yn glir yr angen am newid.
Crëwyd y neges gan aelodau’r Urdd a myfyrwyr o Goleg y Cymoedd gyda chefnogaeth Katie Hall o’r band Chroma, elusen Achub y Plant a’r dylunydd graffeg Steffan Dafydd.