Ymweliad cyntaf Eisteddfod yr Urdd â Chasnewydd

Mae rhanbarth Gwent yn gyffrous iawn i groesawu Eisteddfod yr Urdd 2027 i Dŷ Tredegar, Casnewydd. Dyma fydd y tro cyntaf erioed i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Chasnewydd.

Mae rhanbarth Gwent yn cynnwys Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen, Casnewydd a Sir Fynwy, a bydd y 5 ardal yn cydweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod Eisteddfod yr Urdd Bro’r Wenynen, Gwent 2027 yn llwyddiant.

Bydd plant, pobl ifanc, ysgolion a theuluoedd o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn dod i gystadlu mewn dros 400 o gystadlaethau. Caiff plant lleol hefyd y cyfle i fod yn rhan o’r sioeau, prosiectau a digwyddiadau fydd yn arwain at yr ŵyl.

Yn ogystal â’r cystadlu brwd, bydd arddangosfeydd a gweithgareddau cyffrous yn y GwyddonLe a’r babell Gelf a Chrefft, a llwyfannau perfformio gyda dawnswyr, bandiau byw a grwpiau yn diddanu trwy’r dydd, bob dydd.

Sut allwch chi gefnogi Eisteddfod yr Urdd Bro’r Wenynen, Gwent 2027?

eisteddfod

Rhoi Tlws

Dyma gyfle cyffrous i chi roi tlws ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2027, ble bydd enillydd cystadleuaeth o’ch dewis yn cael tlws deiniadol i gadw, cofio’r achlysur ac i nodi eu llwyddiant.

Noddi Tlws

Rhoi Medal

Dyma gyfle i chi noddi medal un o Brif Seremonïau Eisteddfod yr Urdd 2027. Cyflwynir medal i enillydd y gwobrau canlynol: Medal Gyfansoddi, Medal Gelf, Medal y Dysgwyr, Medal Bobi Jones, Medal Ddrama.

Noddi Medal

Nwyddau

Mae casgliad swyddogol o ddillad gan CrysauTi.cymru i ddathlu Eisteddfod yr Urdd Bro’r Wenynen.

Ar werth yma
eisteddfod

Trwy gyfraniad

Mae croeso i chi gyfrannu at Eisteddfod yr Urdd 2027!

Dilynwch o ddolen yma
Eisteddfod Rhanbarth Abertawe

Gwirfoddoli gyda ni

Mae’r Urdd mor ddiolchgar i bob gwirfoddolwr sy’n rhoi o’u hamser i sicrhau llwyddiant ein gwaith ar lawr gwlad.