Eisteddfod yr Urdd Eryri 2028 yn dod i ardal Caernarfon

Am y tro cyntaf ers 1956, mae’r Urdd a Chyngor Gwynedd wedi cyhoeddi mai ardal Caernarfon fydd cartref Eisteddfod yr Urdd Eryri 2028.

Mae Eisteddfod yr Urdd yn ŵyl deithiol, sydd yn ymweld â rhanbarth gwahanol bob blwyddyn, gyda’r Eisteddfod eleni ar Ynys Môn, ac Eisteddfod 2027 yn cael ei chynnal yng Nghasnewydd, Gwent am y tro cyntaf erioed.

 

“Rydym mor gyffrous fod Eisteddfod yr Urdd yn dychwelyd i ardal Caernarfon yn 2028, ble mae’r Gymraeg i’w chlywed yn naturiol, ac yn fwrlwm o weithgareddau cymunedol a chelfyddydol.

“Mae’r gefnogaeth ydym ni eisoes wedi ei gael gan Gyngor Gwynedd a’r rhanbarth cyfan i gynnal yr Eisteddfod yn Eryri yn 2028 yn wych. Mae safle yn cael ei ystyried ar Ffordd Bethel, Caernarfon, ac edrychwn ymlaen at gyhoeddi’r union leoliad wedi trafodaethau pellach rhwng yr Urdd, Cyngor Gwynedd a pherchnogion tir lleol.”

“Un o gryfderau Eisteddfod yr Urdd yw ei bod yn teithio ac yn rhan annatod o fywydau cymunedau ledled Cymru. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i gydweithio gyda Chyngor Gwynedd, partneriaid lleol a’r gymuned dros y ddwy flynedd nesaf i sicrhau gŵyl gofiadwy a phrofiadau gwerthfawr i blant a phobl ifanc yr ardal.”

“Rydym yn hynod falch o allu croesawu Eisteddfod yr Urdd i Wynedd yn 2028, dyma’r tro cyntaf i’r wŷl ddod i ardal Arfon ers 2012 ac rwy’n gwybod bydd y gymuned leol yn sicrhau y bydd yn Eisteddfod i’w chofio i blant a phobl ifanc o bob rhan o Gymru.

“Mae’r Cyngor wedi cynorthwyo’r Urdd i adnabod safleoedd posib, ac rydym yn falch eu bod bellach yn cyhoeddi mai ardal Caernarfon fydd cartref yr ŵyl mewn cwta dwy flynedd. Bydd llawer o waith i’w wneud cyn hynny a dwi’n edrych ymlaen at fwrlwm y paratoadau. Mae’r cynnwrf sydd i’w deimlo yma ym Môn yr wythnos hon yn ysbrydoliaeth i ni gyd.

“Rydym wrth ein boddau y bydd safle Eisteddfod Eryri 2028 yn ardal Caernarfon. Mae’n dref sy’n llawn egni a bwrlwm a hynny yng nghalon ardal Eryri.”

Sut allwch chi gefnogi Eisteddfod yr Urdd Eryri 2028?

eisteddfod

Rhoi Tlws

Dyma gyfle cyffrous i chi roi tlws ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Eryri 2028, bydd enillydd cystadleuaeth o’ch dewis yn cael tlws deiniadol i gadw a chofio’r achlysur ac i nodi eu llwyddiant.

Noddi Tlws

Rhoi Medal

Dyma gyfle i chi noddi medal un o Brif Seremonïau Eisteddfod yr Urdd Eryr2028. Cyflwynir medal i enillydd y gwobrau canlynol: Medal Gyfansoddi, Medal Gelf, Medal y Dysgwyr, Medal Bobi Jones, Medal Ddrama.

Noddi Medal

Rhoddion

Rydym yn lansio cynllun CAMU (Cynilo Arian Mistar Urdd) i ofyn i bobl Eryri a thu hwnt wneud cyfraniad misol tuag at yr ŵyl am gyfnod o ddau fis ar hugain.

Gellir ychwanegu Rhodd Gymorth ar ben hynny i gynyddu’r swm fydd yr Eisteddfod yn ei dderbyn.

Rydym yn sylweddoli fod y gallu i wneud cyfraniadau misol yn amrywio i bawb, ac felly mae opsiwn i gyfrannu £20, £10, £5 neu swm arall o’ch dewis – byddwn yn ddiolchgar o bob ceiniog!

I fod yn rhan o gynllun CAMU drwy archeb talu (standing order), dilynwch y cyfarwyddiadau isod.

1. Logiwch i mewn i’ch cyfrif banc ar ap neu wefan eich banc

2.Dewiswch ‘payments’

3. Dewiswch ‘standing order’

4. Dewiswch ‘Transfer to someone’s personal or business account’

5. Dewiswch ‘business account’

6. Mewnosodwch fanylion banc yr Urdd
Banc HSBC ccc, Aberystwyth
Còd didoli: 40-08-09
Rhif cyfrif: 61794728
Enw cyfrif: Urdd Gobaith Cymru

7. Rhowch eich enw fel cyfeirnod (reference)

8. Dewiswch swm talu a dyddiad cyfleus i ryddhau’r arian bob mis

9. E-bostiwch llifarian@urdd.org neu cysylltwch ag aelod o’ch Pwyllgor Apêl lleol i gadarnhau eich bod wedi gosod archeb talu

10. Bydd e-bost yn eich cyrraedd ar ddiwedd mis y taliad cyntaf er mwyn cadarnhau at ba bwyllgor apêl y dymunech i’ch cyfraniad fynd tuag ato ac i wirio os gall yr Urdd ychwanegu rhodd gymorth i’r taliadau

Eisteddfod Rhanbarth Abertawe

Gwirfoddoli gyda ni

Mae’r Urdd mor ddiolchgar i bob gwirfoddolwr sy’n rhoi o’u hamser i sicrhau llwyddiant ein gwaith ar lawr gwlad.