Pa gyfeloedd sydd ar gael?

Bob blwyddyn, mae miloedd o wirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser i gefnogi gweithgareddau’r Urdd.

Yn feirniaid Eisteddfod, hyfforddwyr pêl-droed, cerdd dant neu lefaru, yn athrawon, rhieni, cyn-aelodau, arweinwyr aelwyd neu’n bobl ifanc…

Hebddo chi, ni fyddai’r Urdd yn bodoli yn ei ffurf bresennol, ac mae ein diolch yn ddirfawr. 

Helpu i gynnal adran, aelwyd, clwb cinio neu glwb ar ôl ysgol yn dy ardal.

Cynorthwyo mewn clwb, arwain gweithgaredd neu helpu mewn cystadleuaeth neu ddigwyddiad chwaraeon.

Croesawu ymwelwyr, cefnogi cystadlaethau neu helpu gyda pherfformiadau ac Eisteddfodau lleol a chenedlaethol.

Ymuno â thîm SWOG a helpu plant a phobl ifanc i gael gwersyll haf i’w gofio.

Cefnogi teithiau undydd, teithiau tramor neu brosiectau dyngarol pan fydd cyfleoedd ar gael.

Casglu lluniau, fideos a straeon, neu helpu’r tîm i gynnal digwyddiadau ledled Cymru.

Does dim angen cymhwyster hyfforddi i ddechrau cynorthwyo mewn clwb lleol. Galli di weithio ochr yn ochr â staff a phrentisiaid yr Urdd, magu profiad a chael mynediad at hyfforddiant neu gymwysterau.

Gwirfoddoli Chwaraeon

Llwybrau Gwirfoddoli Chwaraeon

Dysgu mwy
Eisteddfod Wrecsam 2025
Hyfforddiant Gwirfoddol

Archwiliwch gyfleoedd hyfforddi

Dysgu mwy
Rugby 7s girls team taking a picture with their trophy and medals after winning the tournament
Digwyddiadau Chwaraeon

Digwyddiadau chwaraeon sydd i ddod

Dysgu mwy

Cwestiynau cyffredin 

Gall unigolion dros 14 mlwydd oed wirfoddoli i’r Urdd ar draws Gymru. Mae’r cyfleoedd yn amrywio yn ôl eich oedran, a byddwn yn cynnig mwy o gyfrifoldebau wrth i’r unigolyn fynd yn hŷn.

Nid oes angen unrhyw gymwysterau na phrofiad blaenorol er mwyn gwirfoddoli gydag Adran Chwaraeon yr Urdd. Mae cyfleoedd ar gael i unigolion gynorthwyo staff neu prentisiaid chwaraeon yr Urdd mewn clybiau lleol.

Er hyn, os oes gennych gymhwyster hyfforddi chwaraeon, bydd mwy o gyfleoedd a chyfrifoldebau ar gael i hyfforddi plant a phobl ifanc yn ein clybiau.

Mae hefyd modd ennill cymwysterau wrth wirfoddoli gyda ni, drwy wneud cais i ymuno llwybrau gwirfoddoli chwaraeon yr Urdd.

Mae’r Adran Chwaraeon yn cynnig tri llwybr gwrifoddoli, sef Llwybr Efydd, Arian ac Aur. O fewn bob llwybr mae cyfleoedd i ennill cymwysterau chwaraeon.

Isafswm nifer o oriau gwirfoddol sy’n ofynnol ar gyfer bob llwybr er mwyn ennill cymwysterau/hyfforddiant chwaraeon yw:

  • Llwybr Efydd – 15 awr
  • Llwybr Arian – 30 awr
  • Llwybr Aur – 45 awr

  • Gwersylloedd haf (Llangrannog, Glan-llyn neu Caerdydd)
  • Gweithgareddau celfyddydol
  • Aelwydydd/clybiau lleol
  • Eisteddfodau lleol
  • Eisteddfod Genedlaethol
  • Fforymau ieuenctid
Eisteddfod Rhanbarth Abertawe

Barod i wirfoddoli?

Dyweda wrthym ble rwyt ti, beth sydd o ddiddordeb i ti a faint o amser sydd gen ti. Byddwn yn helpu i ddod o hyd i gyfle sy’n addas i ti.