Pwy a beth yw Urdd Gobaith Cymru?
Ni yw Urdd Gobaith Cymru. Mudiad ieuenctid mwyaf Cymru. Ein nod yw sicrhau cyfleoedd a phrofiadau, trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, i holl ieuenctid Cymru ddatblygu’n ddinasyddion cyflawn, hyderus.
Rydym yn fudiad unigryw lle mae’r Gymraeg yn ganolog i’n gwasanaeth ac sy’n ymateb i ofynion plant a phobl ifanc heddiw. Nid oes ei thebyg yn y byd ac rydym yn cael ein cydnabod yn rhyngwladol am arwain y ffordd yn narpariaeth ieuenctid llwyddiannus drwy iaith leiafrifol.
Mae’r profiadau rydym yn eu cynnig yn amrywio o gyfleoedd cymunedol a chwaraeon, gwaith ieuenctid, celfyddydol, preswyl, dyngarol, awyr agored, rhyngwladol, prentisiaethau, hyfforddi a gwirfoddoli.
Mae dros 4.5 miliwn o ieuenctid Cymru wedi manteisio ar ein gwasanaeth dros y ganrif ddiwethaf.