Hunan-ddewisiad a hawlfraint

Cyfrifoldeb y cystadleuydd yw sicrhau bod pob caniatâd hawlfraint priodol wedi ei gasglu ar gyfer cynnwys unrhyw ddarnau hunan-ddewisiad o fewn y perfformiad yn Eisteddfod yr Urdd.

Gall hyn gynnwys unrhyw ddarn sydd mewn print neu sydd wedi’i gyhoeddi.

Gall methu a chyflwyno tystiolaeth o’r caniatâd priodol arwain at gael eich diarddel o’r gystadleuaeth.

Hawl perfformio yw sicrhau caniatâd i gael perfformio darn o gerddoriaeth, drama, neu unrhyw waith sydd wedi ei hawlfreintio, yn gyhoeddus o flaen cynulleidfa neu ar deledu, radio neu unrhyw ddarllediad arall.

Mae angen cael caniatâd gyn y rheiny sydd berchen yr hawlfraint, rhan amlaf y cyhoeddwr neu y cyfansoddwr gwreiddiol.

Mae pob darn o waith creadigol yn eiddo i rhywun, ac mae angen cael eu caniatâd i berfformio darn, yn union fel byddai angen cael caniatâd gan unigolyn i fenthyg eu eiddo.

Mae pob cystadleuydd angen sicrhau caniatâd gan yr rheiny sydd berchen hawlfraint y darn, sef y cyhoeddwr gwreiddiol neu y cyfansoddwr/awdur cyn yr Eisteddfod Cylch. Heb ganiatâd perchennog yr hawlfraint, ni fydd yr Urdd yn gallu gadael i’r cystadleuydd berfformio’r darn.

Os yw’r cystadleuydd yn perfformio addasiad o’r darn gwreiddiol (cyfieithu’r geiriau, addasiad cerddorol newydd, creu medley, neu defnyddio cân fel rhan o gân actol er enghraifft), yna bydd angen cysylltu â’r cyhoeddwr gyda manylion yr addasiad hwn, a chael caniatâd i berfformio yr addasiad.

Mae templed o lythyrau ar gael (isod). Bydd hefyd angen gyrru’r cyfieithiad, a chyfieithiad llythrennol yn ôl i Saesneg, i’r cyhoeddwyr er mwyn iddyn nhw gymeradwyo’r cyfieithiad.

Mae manylion cyswllt nifer o gyhoeddwyr yn y Rhestr Testunau, ac mae modd dod o hyd i gyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn ar wefannau y cyhoeddwyr.

Lawrlwythwch yr esiamplau o lythyrau i’w gyrru at gyhoeddwyr (isod).

Bydd angen i bob cystadleuydd sy’n addasu neu gyfieithu, neu sy’n perfformio darn o waith sydd heb ei gyhoeddi’n fasnachol i wneud hyn ac er mwyn sicrhau fod ganddynt ganiatâd i berfformio’r gwaith yn yr Eisteddfod.

Os ydych yn perfformio darn sydd wedi ei gyhoeddi’n fasnachol heb ei addasu, yna nid oes angen cael caniatad pellach.

Does dim sicrwydd y bydd Eisteddfod yr Urdd ac S4C yn gallu clirio’r hawlfraint i bob darn, ond byddwn yn hysbysu’r cystadleuwyr os bydd unrhyw broblemau yn codi.

Llongyfarchiadau! Uwchlwythwch eich llythyr caniatad wrth gofrestru i gystadlu ar Y Porth. Mae cyfarwyddiadau pellach ar gael yn yr adran ‘Dogfennau defnyddiol’ isod.

Gwnewch yn siŵr bod y wybodaeth ar eich ffurflen gystadlu yn gywir hefyd!

 

Nac oes, mae’r Urdd yn cael caniatâd gan y cyhoeddwyr ar ran y cystadleuwyr ar gyfer pob darn gosod.

Os yw manylion y darn yn y Rhestr Testunau yna does dim angen i chi gael caniatâd, ond os ydych chi’n perfformio darn hunan-ddewisiad yna bydd angen cael caniatâd y cyhoeddwyr.

Mae gennym gopi o bob un o’r cyfieithiadau hyn – cysylltwch a hawlfraint@urdd.org i gael copi.

Mae bron yn amhosibl i glirio hawlfraint ar ddarnau sy’n ymddangos ar yr IPC Excluded Works List. Dilynwch y linc isod am fanylion caneuon i’w hosgoi:

https://www.prsformusic.com/licences/broadcasting-music-on-tv/ipc-licence

Bydd angen paratoi Cyfieithiad 3 Llinell ar gyfer POB cyfieithiad, a’i yrru i’r cyhoeddwyr gwreiddiol i gael caniatâd perfformio. Mae cyfarwyddiadau ar sut i lunio a chyflwyno ‘Cyfieithiadau llinell wrth linell’ ar gael yn y dogfennau defnyddiol isod – yn fras, mae angen cyflwyno’r wybodaeth fel hyn:

  • y geiriau fesul llinell, gan gynnwys llinell o’r geiriau gwreiddiol
  • llinell o’r cyfieithiad Cymraeg
  • llinell o’r cyfieithiad llythrennol yn ôl i’r iaith wreiddiol

Noder: Rhestr o awgrymiadau ydy’r darnau yma, nid darnau gosod. Dylech ystyried y gynulleidfa deuluol wrth ddewis monolog.

  • Anfamol gan Rhiannon Boyle
  • Anweledig gan Aled Jones Williams
  • Sgin ti Fonolog? gan Cefin Roberts
  • Tiwlips gan Aled Jones Williams
  • Sundance gan Aled Jones Williams
  • Lysh gan Aled Jones Williams
  • Sgint gan Bethan Marlow
  • Byd Dan Eira gan Sion Eirian
  • Siwan gan Saunders Lewis
  • Blodeuwedd gan Saunders Lewis
  • Bobi a Sami gan Wil Sam
  • Tylwyth – Daf James
  • Llwyth – Daf James
  • Pridd – Aled Jones Williams
  • Llyfr Glas Nebo – Manon Steffan Ross
  • Merched Caerdydd
  • Nos Sadwrn o hyd – Gary Owen
  • Ffydd – Lleucu Roberts
  • Mrs Reynolds a’r Cena bach- Gary Owen
  • Nyrsus – Bethan Marlow
  • Ma Bili’n bwrw’r bronco- Douglas Maxwell – cyf. Jeremi Cockram
  • Wal – Aled Jones Williams
  • Iphigenia yn Sblot – Gary Owen
  • Ty ar y Tywod – Gwenlyn Parry
  • Esther – Saunders Lewis
  • Diwedd y Gân – Elin Williams
  • Imrie – Nia Morais
  • Croendena – Mared Llywelyn
  • Dramâu’r cwmni Mewn Cymeriad
  • Huw Fyw – Tudur Owen

Ceir cymorth pellach ar glirio hawlfraint drwy gysylltu â Adran Gymraeg PRS for Music ar 020 3741 4033 neu e-bostio welshtvprogrammes@prsformusic.com

Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi darllen y siart lif yn y Rhestr Testunau yn gyntaf. Os oes gennych chi gwestiynau pellach, e-bostiwch hawlfraint@urdd.org

Sut mae cysylltu â ni

Cwestiwn pellach? Croeso i chi gysylltu â chriw Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau!