1. Creu cyfrif ar Y Porth

Y cam cyntaf yw creu cyfrif a phroffil o fewn Y Porth, sef ein system ar lein.

Cofrestrwch yma

2. Ymaelodi gyda’r Urdd

Unwaith fyddi di wedi creu dy gyfrif o fewn Y Porth, gelli ymaelodi dy hun gyda’r Urdd (os yn 16+ oed), neu ychwanegu plentyn / plant dy deulu i’w ymaelodi gyda’r Urdd.

Cofrestrwch

3. Dewis cystadleuaeth

Mae’r Rhestr Cystadlaethau yn cynnwys pob un o’r dros 350 o gystadlaethau’r Eisteddfod, boed yn rhai perfformio ar lwyfan, gwaith cartref, CogUrdd neu Gelf, Dylunio a Thechnoleg. Bydd pob cystadleuaeth yn nodi’r darn perthnasol, gan gynnwys manylion.

4. Cofrestrwch drwy Y Porth

Gellir cofrestru ar gyfer yr holl gystadlaethau drwy dy gyfrif Porth. Mae modd i ti gofrestru cystadlaethau unigol dy hun neu fel rhiant, ond bydd angen i’r ysgol/cangen cofrestru cystadlaethau torfol (grwpiau).

5. Nodwch y Dyddiadau

Mae’n bwysig dy fod yn ymwybodol o’r dyddiadau yma, fel nad wyt ti’n colli unrhyw ddyddiadau cau!

6. Rowndiau cystadlu

Mae’r Eisteddfod wedi’i rhannu’n dair rownd: un leol, un ranbarthol ac un genedlaethol.

  • Bydd dyddiadau‘r Eisteddfod Cylch ar gael drwy holi’r Ysgol/Cangen, ar gyfryngau cymdeithasol neu drwy gysylltu gyda dy Swyddog Cymunedol.
  • Bydd rhagbrofion ar gyfer cystadlaethau unigol gan amlaf (os na nodir yn wahanol gan y Swyddog Cymunedol)
  • Beth yw Rhagbrofion? Dyma rownd gyntaf o gystadlu os fydd nifer y cystadlu yn uchel. Bydd 3 yn cael eu dewis i berfformio eto ar lwyfan yr Eisteddfod Cylch. NID canlyniad y gystadleuaeth yw hwn!
  • Mae’r 3 enw yma yn cael ei gyhoeddi a’i arddangos mewn ardal penodedig yn dilyn y rhagbrawf, cyn ail berfformio ar lwyfan yr Eisteddfod Cylch.
  • Yn ddibynnol ar eich rhanbarth, bydd y 1af, ac efallai 2il a 3ydd, yn mynd ymlaen i gynrychioli’r Cylch yn yr Eisteddfod Rhanbarth.
  • Rhoddir tystysgrif ‘Da iawn ti’ i bawb fydd yn cystadlu yn unigol, fydd yn cynnwys sylwadau byr am y perfformiad. Bydd y 3 uchaf yn derbyn Tystysgrif a beirniadaeth lawn.

  • Bydd dyddiadau’r Eisteddfod Rhanbarth ar gael drwy holi’r Ysgol/Cangen, ar gyfryngau cymdeithasol, neu drwy gysylltu gyda dy Swyddog Cymunedol.
  • Mae ambell i Ranbarth yn cynnal Rhagbrofion, felly yn dilyn yr un broses a’r Eisteddfod Cylch.
  • Mae’r enillydd o bob gystadleuaeth yn cael eu gwahodd i’r Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
  • Bydd y 3 uchaf yn derbyn Tystysgrif a beirniadaeth lawn.

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn teithio o amgylch Cymru, gan ymweld ag ardal newydd yn flynyddol.

Os yn fuddugol yn yr Eisteddfod Rhanbarth, fe gei wahoddad i gystadlu ar lefel Genedlaethol, ar un o brif lwyfannau’r Ŵyl ar faes yr Eisteddfod.

Mae amserlen penodol yn cael ei greu ac ar gael ychydig wythnosau cyn yr Eisteddfod, ar ein gwefan, yn nodi dyddiad, amser a lleoliad y gystadleuaeth.

Yn dilyn y gystadleuaeth bydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan y Cyfrwy (llwyfan canlyniadau), lle derbynnir y 3 cyntaf eu tystysgrifau a medalau.

Mae beirniadaeth lawn ar gael ar gyfer pob cystadleuydd o Swyddfa’r Eisteddfod, sydd ar y Maes, yn dilyn y canlyniad.

Ein côd cyfeillgarwch

Mae Urdd Gobaith Cymru yn disgwyl i gystadleuwyr, hyfforddwyr a chefnogwyr ymrwymo i ysbryd o chwarae teg yn holl weithgareddau’r Mudiad.

Darllenwch ein cod cyfeillgarwch
Gwobrau Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 2024

Gwobrau Urdd x RWCMD

Darganfyddwch y chwe gwobr ar gyfer sêr llwyfan Eisteddfod yr Urdd a Gwobrau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a gefnogir gan dalentau gorau Cymru.

Darganfod mwy

Ysgoloriaeth Geraint George

Sefydlwyd yr ysgoloriaeth hon gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri er cof am Geraint George, a oedd yn amgylcheddwr, yn addysgwr ac yn gyfathrebwr brwdfrydig.

Sefydlwyd yr ysgoloriaeth hon gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri er cof am y diweddar Geraint George.

Nod yr ysgoloriaeth sy’n agored i unigolion 18-25 oed yw meithrin cyfathrebwyr gwych a all helpu pobl yng Nghymru, a thu hwnt, i werthfawrogi’r byd naturiol a deall y ffactorau sy’n effeithio arno. Gwahoddir cystadleuwyr i anfon gwaith cyfathrebu, mewn unrhyw gyfrwng ac ar unrhyw bwnc amgylcheddol sy’n berthnasol i Gymru.

Bydd yr enillydd yn cael dewis un o ddau opsiwn:

  1. Ymweliad wythnos â Pharc Cenedlaethol Trigav yn Slofenia ble ceir cyfle i ddysgu am waith y Parc a chymryd rhan mewn gweithgareddau.
  2. Mynychu cynhadledd Ewroparc a gynhelir mewn gwahanol ran o Ewrop bob blwyddyn, ble ceir cyfle i ddysgu am waith sy’n digwydd mewn gwahanol wledydd ac ymweld â safleoedd.