Amdanom ni

Mae Gwersyll yr Urdd Caerdydd yn hostel 4 seren wedi ei leoli ym Mae Caerdydd, o dan do Canolfan Mileniwm Cymru a gyferbyn â’r Senedd.

Mae’n rhoi’r cyfle i blant a phobl ifanc flasu a mwynhau danteithion prifddinas Cymru. Ni’n cynnig ystod eang o weithgareddau a chyrsiau i grwpiau o bob maint yn y Gwersyll.

Tro o amgylch y Gwersyll

Cymerwch daith rhithiol o’r safle cyn archebu eich arhosiad.

Taith Rithiol

Pecyn corfforaethol

Dewch i glywed mwy am y pecynnau corfforaethol sydd ar gael i chi.

Cysylltwch â ni

Awydd ymweld â ni’n Gaerdydd?

Ffoniwch ni ar 02920 635678 neu e-bostiwch â chroeso!

Urdd - Llangrannog

Ein gwersylloedd

O lannau Llyn Tegid i arfordir Ceredigion, o Fryniau Preseli i Fae Caerdydd, mae ein gwersylloedd yn cynnig profiadau preswyl mewn rhai o leoliadau mwyaf arbennig Cymru.