Cyrsiau Preswyl deuddydd, un noson (pris yn cynnwys llety, bwyd a gweithgareddau)
| Galwad y Gwyllt (trwy’r flwyddyn) – £82* | Atebwch alwad y gwyllt a dysgwch sut i amddiffyn ein hamgylchedd i genedlaethau’r dyfodol. Datblygwch sgiliau newydd a gweithiwch gyda’ch gilydd i oroesi sialensiau gwyllt y gwersyll. |
| Cwrs Lles a Natur (trwy’r flwyddyn) – £82 | Dyma gyfle i ymlacio a meithrin eich meddwl a’ch corff gyda sesiynau ioga ysgafn, meddylgarwch, myfyrdod mewn natur a gweithdai celf naturiol. Cewch rannu profiadau a mewnwelediadau mewn trafodaethau grŵp cefnogol a chymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog i adeiladu tîm. |
| Dihangfa Adolygu (trwy’r Flwyddyn) – £79 | Ymunwch â ni i roi lle ac amser i’ch myfyrwyr adolygu mewn lleoliad tawel yn rhydd o wrthdyniadau. Mae’r pecyn hwn yn cynnwys gweithgareddau lleihau straen fel myfyrdod, teithiau cerdded lles ac ioga. Fydd gennych ddefnydd llawn o’n neuadd hardd, ysbrydoledig a chartrefol yn y Porthdy ar gyfer eich sesiynau adolygu. |
| Dihangfa Greadigol (trwy’r flwyddyn) – £85 | Cyfle i roi lle, ysbrydoliaeth ac amser i’ch myfyrwyr cyfansoddi a chreu heb wrthdyniadau. Mae’r pecyn hwn yn cynnwys gweithdy gydag arbenigwr yn eich pwnc a gweithgareddau a fydd yn helpu sbarduno syniadau mewn lleoliadau naturiol ysbrydoledig.
Gwaith Maes Daearyddiaeth Cwrs Hanes ac Archaeoleg Cwrs Amaeth: Ymweliadau Fferm Cwrs Busnes a’r Amgylchedd |
Pris yw pris y pen ac yn cynnwys llety, bwyd a gweithgareddau. Mae’r uchod ar gael fel cwrs 3 diwrnod, 2 noson hefyd am gost ychwanegol.
Cyrsiau Preswyl tridiau, dwy noson
- Dihangfa Lles a Natur – £137 y pen
- Galwad y Gwyllt – £137 y pen
- Antur Natur – £137 y pen
Pris yn cynnwys llety, bwyd a gweithgareddau’r gwersyll. Fedrwn hefyd helpu chi drefnu gweithgareddau ychwanegol megis arfordiro, padlfyrddio a thripiau cwch yn yr ardal. Fedrwn hefyd helpu chi drefnu gweithgareddau ychwanegol megis arfordiro, padlfyrddio a tripiau cwch yn yr ardal.
Adeiladwch gwrs preswyl eich hun
Llety yn unig: £20 y gwely’r noson*
Llety a bwyd: £45 y gwely’r noson*
*Pris yn seiliedig ar leiafswm o 15 person.
Cysylltwch â ni am restr o brisiau atyniadau a phrofiadau lleol.
Cysylltwch â ni