Urdd - Llangranog

Amdanom ni

Yn y ganolfan breswyl hon ar arfordir prydferth Ceredigion caiff plant a phobl ifanc gymdeithasu a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Arbenigwn mewn cyrsiau preswyl i hyd at 350 o blant a phobl ifanc drwy gydol y flwyddyn, ac mae’r ganolfan yn cysgu hyd at 450.

Gallwn ddarparu gweithgareddau pwrpasol i ateb gofynion eich grŵp, gan fanteisio’n llawn ar ddegawdau o brofiad mewn trefnu cyrsiau.

Mae gennym dros 25 o weithgareddau ac mae’r rhestr yn dal i dyfu!

Tro o amgylch Llangrannog

Cymerwch daith rhithiol o’r safle cyn archebu eich arhosiad.

Taith Rithiol

Llety hunan-arlwyo

O lannau Llyn Tegid i arfordir godidog Sir Benfro, mae amrywiaeth o lety hunan-arlwyo gan yr Urdd – o adeiladau cyfforddus ar gyfer grwpiau mawr i brofiadau gwersylla a glampio cofiadwy.

Dysgu mwy

Cysylltwch â ni

Awydd ymweld â ni’n Llangrannog?

Ffoniwch ni ar 01239 652 140 neu e-bostiwch â chroeso!

Children jumping off a SUP into the lake in Glan-llyn

Gwersylloedd

Edrychwch ar ein canolfannau preswyl a pha weithgareddau rydyn ni’n eu cynnig