Baner Glas yr Urdd yn chwifio o flaen Canolfan y Mileniwm

Beth yw Cronfa Cyfle i Bawb?

Yn anffodus, nid yw pob plentyn yn cael cyfle i fynd ar wyliau haf. Nod Cronfa Cyfle i Bawb yw sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael cyfle i greu atgofion ar wersyll haf, a gallwch chi ein helpu!

Wyddoch chi bod 29% o blant Cymru yn byw mewn tlodi? Mae pob plentyn yn haeddu cael mwynhau haf o wneud atgofion gyda ffrindiau mewn amgylchedd diogel, ond gall tlodi atal plant rhag cael y cyfleoedd hyn. Rydyn ni am sicrhau fod pob plentyn yng Nghymru yn cael cyfle i greu atgofion ar wersyll haf, beth bynnag fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau ariannol.

Ers y 1930au mae degau o filoedd o Gymry wedi mynychu gwersylloedd haf yr Urdd, ac mae’n bosib iawn eich bod chi’n un o’r rheiny! Mae gan lawer ohonom atgofion melys o dwmpathau dawns, te gwersyll, cerdded i’r traeth ac wrth hynny creu ffrindiau oes! Bwriad yr ymgyrch newydd sbon hwn yw cynnig profiadau bythgofiadwy i griw newydd o ieuenctid Cymru.

Rydym yn chwilio am gyfranwyr i roi i Gronfa Cyfle i Bawb – Gwersylloedd Haf yr Urdd, i ariannu cyfnod yn un o’n gwersylloedd i blant na fyddai fel arall yn cael cyfle i fwynhau gwyliau haf.

Byddai cyfraniad o £230 yn talu am gost gwyliau llawn gweithgareddau i un plentyn, yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog, Glan-llyn, Caerdydd neu Pentre Ifan.

Hoffech chi ein helpu i sicrhau fod plant Cymru i gyd yn cael yr un cyfle i fwynhau gwyliau haf yn un o wersylloedd yr Urdd?

 

A group of children enjoying visiting Pentre Ifan on a sunny day

Cyfrannu ar-lein

Gallwch ddewis rhwng nifer o ffyrdd i gyfrannu i’r gronfa, ac mae hi’n broses hawdd a chyflym:

Sut galla i gefnogi?

Gallwch ddewis rhwng nifer o ffyrdd i gyfrannu i’r gronfa, ac mae hi’n broses hawdd achyflym:

1. Cyfraniad un tro trwy PayPal neu gerdyn credyd/debyd
2. Cyfrannu’n fisol neu blynyddol trwy PayPal neu gerdyn
3. Anfon siec yn daladwy i Urdd Gobaith Cymru ynghyd â’ch manylion cyswllt

Lowri Jones
Fund for All
Gwersyll yr Urdd Llangrannog
Ceredigion
SA44 6AE

Mae sawl pecyn nawdd ar gael:

  • £230 yn noddi lle i 1 plentyn
  • £690 yn noddi lle i 3 plentyn
  • £1150 yn noddi lle i 5 plentyn
  • £5000 yn noddi lle i 21 plentyn (pecyn o fuddion ar gael)

Gallwch wneud cyfraniad drwy unrhyw un o’r dulliau uchod neu gallwn eich anfonebu.

I drafod y pecynnau nawdd, cysylltwch â ni: cronfa@urdd.org

Yn ogystal a thrafnidiaeth, llety, a bwyd i blentyn am 5 diwrnod, bydd eich cyfraniad yn talu am hyd at 35 o weithgareddau cyffrous, gan gynnwys canŵio, rafftio, weiren zip, beiciau modur, sgïo, nofio, canu a dawnsio, heb sôn am y cyfle i wneud ffrindiau newydd a chreu atgofion oes.

Byddwn yn cadw mewn cysylltiad trwy anfon cylchlythyr ym mis Medi 2026 i ddangos i chi sut mae eich cyfraniad wedi gwneud gwahaniaeth, ac i gydnabod eich cyfraniad hael byddwch hefyd yn derbyn:

  • Bathodyn pin cyfrannwr
  • Cerdyn post o’r gwersyll
  • Tystysgrif (i gwmnïau)
  • Graffeg i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol (i gwmnïau)
  • Cydnabyddiaeth ar wefan, chyfryngau cymdeithasol, ac yn adroddiad blynyddol yr Urdd (cyfraniadau dros £500)
  • Am gyfraniad o £5000 neu fwy, mae pecyn buddion ychwanegol ar gael. I drafod y pecynnau nawdd, cysylltwch â ni: cronfa@urdd.org

FAQs

  • plentyn/person ifanc rhwng 8 ac 18 oed
  • plentyn/person ifanc sy’n siarad Cymraeg yn hyderus neu’n dysgu
  • plentyn/person ifanc y mae ei rieni/gwarcheidwaid yn gymwys am brydau ysgol am ddim NEU gredydau treth gwaith
  • plentyn/person ifanc yr ydych chi’n teimlo y byddai’n elwa o Gwrs Haf yn un o Ganolfannau’r Urdd
  • does dim rhaid i’r plentyn/person ifanc fod yn aelod o’r Urdd i wneud cais.

*Noder, rhaid cyrraedd pob un o’r meini prawf hyn i gael cynnig lle.

Bydd y gronfa yn talu am bris cyfan y cwrs, ac hefyd trafnidiaeth i’r Gwersylloedd.

Ar ol y dyddiad cau (30 Mai) bydd y panel yn cwrdd ac yn asesu’r holl geisiadau am y tro cyntaf ac yn dyrannu llefydd. Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu gan bwyllgor llywio. Byddwch yn cael gwybod erbyn diwedd mis Mehefin 2026 os yw’r cais wedi bod yn llwyddiannus.

Mae nifer y lleoedd fydd ar gael yn dibynnu ar lefel y cyllid a dderbynnir, felly bydd pob cais yn cael ei asesu a dyrennir y lleoedd i’r rhai hynny sy’n cwrdd orau â’r meini prawf.

A group of children enjoying the 'RibRide' trip in Cerdydd Bay

Gwneud Cais

Ar ôl y dyddiad cau, bydd panel yn asesu ceisiadau ac yn dyrannu lleoedd. Byddwch yn cael gwybod y canlyniad erbyn diwedd Mehefin 2026. Bydd nifer y lleoedd yn dibynnu ar gyllid, a rhoddir blaenoriaeth i’r ceisiadau sy’n cwrdd orau â’r meini prawf.

Ffurflen gais