Deiseb Heddwch Merched Cymru 1923-24

Roedd Neges Heddwch 2024 yn ddathliad o ymyrch arwrol Deiseb Heddwch Merched Cymru 1923-24, ac yn datgan yr angen i barhau gyda’r alwad am heddwch can mlynedd yn ddiweddarach.

Ganrif yn ôl, ar yr 19eg o Chwefror 1924, agorwyd cist Deiseb Heddwch menywod Cymru gyda’i 390, 296 o lofnodion o flaen 600 o fenywod yr Unol Daleithiau yn y Baltimore Hotel, Efrog Newydd.

Roedd y ddeiseb yn apelio am weld cydweithredu dros heddwch yn y byd, ac mae ei stori wedi ysbrydoli’r Urdd i annog criw o ferched ifanc i ddod at ei gilydd i lunio’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da eleni.

Datganwyd y neges yr angen i weithredu ac i barhau i alw am Heddwch. Rhaid rhoi diwedd ar erchyllterau, rhyfeloedd a thrais, gan nodi’n glir y gall cydweithrediad, angerdd a gobaith ein harwain tuag at ddyfodol gwell.

Gweithdu Neges Heddwch 2024

I baratoi at lunio’r neges, cynhaliodd yr Urdd weithdy yng ngwersyll Caerdydd yn Ionawr. Daeth staff, prentisiaid a gwirfoddolwyr yr Urdd, a myfyrwyr cwrs ESOL (dysgwyr Saesneg fel ail iaith) Coleg Caerdydd a’r Fro at ei gilydd ar gyfer y gweithdy a chreu neges 2024. Merched oedd yr holl fynychwyr, a hynny er mwyn adlewyrchu Deiseb Heddwch Menywod Cymry 1923-24.

Elan Evans a’r bardd a chantores, Casi Wyn, oedd yn arwain y gweithdy. Llwyddwyd i greu awyrgylch saff ac arbennig iawn yn ystod y deuddydd wrth ymdrin â thrafod heddwch a hanes y ddeiseb. Cynhaliwyd trafodaethau pwysig ymysg y merched er mwyn lleisio eu barn a phenderfynu ar drywydd y neges.

Er mwyn cyfoethogi’r gweithdy, gwahoddwyd gwesteion arbennig i’r gweithdy. Cafwyd sgyrsiau pwerus iawn gan Mererid Hopwood, Ffion Fielding o WCIA, Zoey Allen a Mah Kakar. Diolch yn fawr iawn i’r pedair am ymuno yn y sesiwn ac ysbrydoli y merched ym mhellach.

Mae Casi Wyn nawr wedi trosi syniadau a geiriau pwerus y merched lawr ar bapur ar gyfer neges 2024, a bydd Efa Blosse-Mason wedyn yn mynd ati i greu’r animeiddiad.

Y Ddeiseb Heddwch

Eisiau gwybod mwy am Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru 1923-24? Dilynwch y ddolen isod i wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru er mwyn dysgu mwy am hanes y ddeiseb.

Negeseuon y gorffennol

Mae casgliad o Negeseuon Heddwch y blynyddoedd diweddar ar gael ar ein gwefan, ac archif o Negeseuon y gorffennol ar wefan Casgliad y Werin Cymru.