Dyma wersyll sy’n rhoi blaenoriaeth i’r amgylchedd, lles emosiynol pobl ifanc a’r Gymraeg mewn un profiad preswyl hudolus. Rhwng môr a mynydd yng Ngogledd Sir Benfro mae Gwersyll Pentre Ifan yn y lleoliad yn berffaith i drwytho pobl ifanc yn yr amgylchedd ac mewn llonyddwch.
Agorwyd Canolfan Pentre Ifan ym 1992 fel canolfan addysgol gyda’r pwyslais ar addysg amgylcheddol. Dros y blynyddoedd diwethaf datblygwyd Gwersyll Pentre Ifan trwy gymorth rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru, Sefydliad Garfield Weston a Sefydliad Elusennol Tywysog Cymru.
Roedd y gwaith yn cynnwys adnewyddu’r neuadd bresennol a thrawsnewid y pedwar adeilad arall sydd ar y safle yn llety o safon.