Fel darparwr gweithgareddau anturus, gallwn helpu mewn nifer o ffyrdd efo’ch alldeithiau.
Lleoliadau Alldeithio yng Nghymru
Sefydliad Trwyddedig (e.e. ysgolion, colegau, canolfannau ieuenctid)
Gallwn gynnig pecyn i’ch grŵp o gyfranogwyr sy’n cynnwys hyfforddiant, offer ac alldeithiau.
Oes gennych brinder staff ar gyfer eich alldeithiau? Gallwn helpu staffio eich alldeithiau os ydych fel arfer yn rhedeg eich alldeithiau ‘in house’. O staffio yn unig i helpu efo trafnidiaeth neu offer, cysylltwch efo ni i drafod sut allwn ni helpu chi!
Cyfranogwr
Ydych chi wedi cofrestru efo’ch ysgol neu goleg ac yn ansicr o ble neu sut i gyflawni eich uned alldeithiau? Rydym yn rhedeg Alldeithiau Agored i bob lefel yn ystod gwyliau ysgol. Mae’r alldeithiau yma ar agor i gyfranogwyr o unrhyw le yng Nghymru, felly cyfle gwych i gyflawni’r uned a gwneud ffrindiau newydd! I gael mwy o wybodaeth am ein halldeithiau agored, plîs cliciwch ar y lefel uchod.
Preswyl Aur
Gallwch ymuno ar nifer o gyrsiau Urdd sydd yn cyfateb i ofynion y Wobr Aur. Cliciwch yma i weld pa gyrsiau sydd ar gael.