Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru ar ran yr Urdd

Mae’r Urdd yn sefydliad Partner i Senedd Ieuenctid Cymru, ac mae hi'n bleser cyhoeddi mai Awel Grug Lewis o Rydaman sydd yn cynrychioli'r Urdd ar Senedd Ieuenctid Cymru.

Meddai Awel: "Teimlaf fod gennyf wybodaeth helaeth am waith yr Urdd a’i ddylanwad ar bobl ifanc a hoffwn gael y cyfle i gynrychioli'r mudiad pwysig hwn ar Senedd Ieuenctid Cymru. Byddwn yn gynrychiolydd cryf, dibynadwy a gweithgar... Mae gennyf wybodaeth gyffredinol dda am y materion sydd yn effeithio ar Gymru heddiw ac rwy’n awyddus i ddefnyddio’r wybodaeth hon i wneud gwahaniaeth cadarnhaol."

Eisiau cysylltu gyda Awel?

Er mwyn gwneud cais i gysylltu gyda Awel, gofynnwn i chi e-bostio eich cais at Catrin James, Pennaeth Polisi, Grantiau a Llywodraethau'r Urdd: catrinj@urdd.org