Mae rôl ein gwirfoddolwyr yn hanfodol yn strwythur llywodraethu’r Urdd, ac rydym am barhau i dderbyn eu profiad, sgiliau, ac arbenigedd i’n harwain i mewn i’r ganrif nesaf.
Caiff aelodau'r Bwrdd eu penodi am gyfnod o dair blynedd. Mae disgwyl i aelodau'r Bwrdd:
- paratoi ar gyfer cyfarfodydd y Bwrdd
- neilltuo amser i ymgyfarwyddo â gwaith yr Urdd a chynlluniau penodol maes gweithredu'r Bwrdd
- mynychu o leiaf 2 cyfarfod y flwyddyn a Chyfarfod Blynyddol Urdd Gobaith Cymru. (Bydd y mwyafrif o’r cyfarfodydd ar lein gyda chyfarfodydd ‘mewn person‘ yn ôl y galw.)
- cymryd rhan mewn pwyllgorau / grwpiau Gorchwyl a Gorffen os yn berthnasol
Rôl a chyfrifoldebau aelod o Fwrdd
- Cefnogi’r Cyfarwyddwr(wyr) i lunio a chymeradwyo gweledigaeth, amcanion a deilliannau strategol hir dymor yr adran(nau)
- Adolygu, craffu a monitro perfformiad yr adran(nau),
- Hybu agenda ar gyfer gwelliant parhaus o safbwynt darparu gwasanaethau'r adran
- Craffu i annog yr adran(nau) i ddarparu cynnig cynhwysol i blant a phobl ifanc sy’n wynebu rhwystrau at fynediad hawdd i ddarpariaeth yr Urdd
- Rhannu arbenigedd a chyfrannu a dylanwadu ar ddatblygiadau’r hir dymor yr adran
- Gweithio gyda’r cyfarwyddwr i sicrhau cefnogaeth a gofal dros wirfoddolwyr yr adran(nau)
- Cefnogi prosesau recriwtio’r yn ôl y galw.
Cliciwch ar y bwrdd perthnasol am wybodaeth pellach:

Bwrdd Adnoddau Dynol
Dysgu mwy
Bwrdd Busnes
Dysgu mwy
Aelodau Bwrdd 18-25 oed
Dysgu mwy