Cefndir a phwrpas Bwrdd Busnes yr Urdd
Mae rheolaeth ariannol gref yn hanfodol i elusennau ac mae rôl y Bwrdd Busnes yn goruchwylio’r materion ariannol yn chwarae rhan allweddol yn strwythur llywodraethiant yr Urdd. Mae diogelu sefyllfa ariannol yr elusen, goruchwylio’r defnydd o adnoddau ariannol a phenderfyniadau buddsoddi’r elusen yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gan yr elusen yr adnoddau i gyflawni ei hamcanion wrth barhau i ddiogelu fod gweithgareddau’r elusen yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Abigail Sara Williams
Cadeirydd y Bwrdd Busnes
Yn dilyn graddio mewn mathemateg o Brifysgol Caergrawnt, cymhwysais fel Cyfrifydd Siartredig (ICAEW) wrth weithio gyda Deloitte, a llwyddo i gyrraedd y pedwerydd safle yn nhrefn teilyngdod yn yr arholiadau terfynol. Wedi cyfnod o 5 mlynedd gyda Deloitte, bûm yn gweithio i RAC plc, y BBC a chyfreithwyr Morgan Cole, cyn ymuno a CBAC yn 2013 ac rwyf wedi bod yn Gyfarwyddwr Cyllid yno ers 2018.
Rôl y Bwrdd Busnes
- Adolygu'r cyfrifon statudol blynyddol a’i argymell i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr
- Adolygu’r cyfrifon rheoli chwarterol, a’r gyllideb flynyddol yr adrannau ac argymell y gyllideb i’r Bwrdd Ymddiriedolwyr
- Adolygu a diweddaru portffolio eiddo’r Urdd
- Adolygu, cymeradwyo a monitro prosiectau cyfalafol
- Monitro perfformiad buddsoddiadau a chynnig argymhellion o ran newidiadau i’r buddsoddiadau
- Derbyn, adolygu a chymeradwy ceisiadau busnes am wariant allan o arian wrth gefn
- Cymeradwyo a monitro polisïau ariannol yr Urdd