Cefndir a phwrpas Bwrdd Chwaraeon a Phrentisiaethau yr Urdd
Sefydlwyd y Bwrdd yn 2020, a’i rôl yw rhannu arbenigedd a chyngor i lywio strategaeth yr adran Chwaraeon a Phrentisiaethau. Rydym am sicrhau cyfleoedd ar draws Cymru i bob plentyn wirioni ar chwaraeon a hynny drwy gynnal clybiau, cystadlaethau, hyfforddiant a gwyliau chwaraeon rhanbarthol a chenedlaethol. O fewn ein hadran Prentisiaethau, ein gweledigaeth yw meithrin gweithlu hyderus a dwyieithog trwy ddarparu cyfleoedd i bobl i ddysgu, i ddatblygu’n bersonol a chymdeithasol, ac i gynyddu eu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg.
Gemma Cutter
Cadeirydd Bwrdd Chwaraeon a Phrentisiaethau
Mae gan Gemma 20 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y sector Chwaraeon. Mae yn gweithio i Chwaraeon Anabledd Cymru fel Uwch Swyddog Llwybr Perfformiad Cenedlaethol yn dylanwadu ac yn cydweithio â phartneriaid o Gymru a’r DU/Prydain i ddatblygu llwybrau sy’n cynnwys pobl anabl. Ymunodd yn aelod o’r Bwrdd hwn yn 2020 ac wedi cefnogi’r Urdd i ennill safon gwobr aur fawreddog 'insport' sy’n dangos eu hymrwymiad i gynhwysiant. Mae’r Urdd wedi bod yn rhan bwysig o fywyd Gemma gyda’i phlant yn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd i ganu, mynychu’r canolfannau preswyl ac i fod yn egnïol ar y maes chwaraeon. Mae’r Bwrdd a’r tîm am sicrhau bod pawb ledled Cymru yn cael profiadau cadarnhaol ac yn mynychu’r cyfleoedd cynhwysol sydd ar gael drwy’r tîm Chwaraeon a Phrentisiaethau.
Rôl y Bwrdd Chwaraeon a Phrentisiaethau
- Cefnogi'r cyfarwyddwr a staff yr adran i ddatblygu cynllun strategol yr adran gan gymeradwyo’r fersiwn terfynol
- Adolygu (ar y cyd gyda staff yr Adran) nod strategol yr Adran Chwaraeon a Phrentisiaethau
- Sicrhau atebolrwydd trwy graffu a monitro allbynnau a pherfformiad ariannol yr adran
- Rhannu arweiniad a chefnogaeth mewn meysydd penodol ym maes Chwaraeon a Phrentisiaethau
- Cyflwyno argymhellion i Fwrdd Ymddiriedolwyr yr Urdd