Cefndir Bwrdd Celfyddydau

Mae’r Bwrdd hwn yn darparu arbenigedd a chyngor er mwyn llywio cyfeiriad strategol yr adran Celfyddydau ar gyfer y dyfodol. Bydd yn cynorthwyo’r adran yn ei gweledigaeth i ehangu cynnig celfyddydol gydol flwyddyn yr Urdd ynghyd â bod yn gyswllt i ddatblygu partneriaethau newydd i gyrraedd y nod.  Mae Eisteddfod yr Urdd yn ddigwyddiad o bwys yng nghalendr Celfyddydol Cymru, yn denu 76,000 o gystadleuwyr ac yn cyfrannu £11M i economi Cymru. Rydym yn angerddol dros sicrhau fod cynnig celfyddydol cenedlaethol a chymunedol yr Urdd yn parhau i esblygu a thyfu yn gynhwysol a bod pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn cael y cyfle i gymryd rhan.

Arwel Gruffydd

Arwel Gruffydd

Cadeirydd Bwrdd Celfyddydau

Ar ôl graddio gyda BA Anrhydedd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor, derbyniais radd diploma mewn perfformio o academi ddrama Webber Douglas, Llundain. Wedi bron i ddau ddegawd o actio’n broffesiynol yn y theatr, ac ar radio, ffilm a theledu, bûm yn Rheolwr Llenyddol Sgript Cymru ac yna’n Gyfarwyddwr Cyswllt Theatr y Sherman yng Nghaerdydd. Bûm yn Gyfarwyddwr Artistig a Phrif-weithredwr Theatr Genedlaethol Cymru rhwng Ebrill 2011 a Mai 2022. Erbyn hyn rwyf unwaith eto’n artist llawrydd; yn actor, cyfarwyddwr, awdur a dramodydd, yn ogystal ag ymgynghorydd a hwylusydd yn y maes.

Mae aelodau y Bwrdd arbennig hwn, ar y cyd gyda’r cyfarwyddwr, yn gosod cyfeiriad strategol celfyddydol i’r Urdd, i sicrhau profiadau a chyfleoedd bythgofiadwy ym maes y Celfyddydau i blant a phobl ifanc yng Nghymru a thu hwnt.

Rôl y Bwrdd Eisteddfod a’r Celfyddydau

  • Cefnogi'r cyfarwyddwr a staff yr adran i ddatblygu cynllun strategol yr adran gan gymeradwyo’r fersiwn terfynol.
  • Adolygu (ar y cyd gyda staff yr Adran) nod strategol Adran yr Eisteddfod a’r Celfyddydau.
  • Sicrhau atebolrwydd trwy graffu a monitro allbynnau a pherfformiad ariannol yr adran.
  • Rhannu arweiniad a chefnogaeth mewn meysydd penodol ym maes y Celfyddydau.
  • Cyflwyno argymhellion i Fwrdd Ymddiriedolwyr yr Urdd.