Cefndir a phwrpas y Bwrdd Rhyngwladol
Mae’r Bwrdd Rhyngwladol yn fwrdd newydd o fewn strwythur Llywodraethiant yr Urdd.
Bydd y bwrdd hwn yn darparu arbenigedd a chyngor i gefnogi cyfeiriad strategol darpariaethau rhyngwladol yr Urdd.
Bydd yn cynorthwyo’r adran Cyfathrebu a Rhyngwladol yn ei gweledigaeth i sicrhau fod ieuenctid Cymru yn cael profiadau unigryw rhyngwladol gan rannu ein diwylliant a grymuso pobl ifanc i fod yn falch o'u hiaith a'u treftadaeth ac yn agored i'r byd, a datblygu sgiliau dinasyddiaeth fyd eang.
Delyth Evans
Cadeirydd y Bwrdd Rhyngwladol
Dechreuodd Delyth ei gyrfa fel newyddiadurwr newyddion a materion cyfoes. Aeth i weithio fel ysgrifennwr areithiau gwleidyddol ac, yn hwyrach, gwasanaethodd fel Aelod Cynulliad am dair blynedd, lle buodd yn Ddirprwy Weinidog dros y Gymraeg, Materion Gwledig a’r Amgylchedd. Mae Delyth wedi gweithredu mewn rôl Prif Weithredwr ar gyfer dwy elusen ac fel ymgynghorydd polisi a strategaeth. Mae hefyd yn gwasanaethu ar Fwrdd Chwaraeon Cymru, Coleg Gwent a’r Sefydliad Alacrity, sef elusen addysg sy’n darparu hyfforddiant entrepreneuriaeth ar gyfer graddedigion mewn technoleg.
Rôl y Bwrdd Rhyngwladol
- Cefnogi'r cyfarwyddwr a staff yr adran i ddatblygu cynllun strategol yr adran gan gymeradwyo’r fersiwn terfynol
- Adolygu (ar y cyd gyda staff yr Adran) nod strategol darpariaeth Ryngwladol yr Urdd
- Sicrhau atebolrwydd trwy graffu a monitro allbynnau a pherfformiad ariannol gwaith rhyngwladol
- Rhannu arweiniad a chefnogaeth mewn materion a chyfleodd rhyngwladol
- Cyflwyno argymhellion i Fwrdd Ymddiriedolwyr yr Urdd