Cefndir a phwrpas y Pwyllgor Archwilio a Risg

Nod y Pwyllgor Archwilio a Risg yw cynorthwyo Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Urdd gyda’i gyfrifoldeb drwy graffu ar a herio’r prosesau strategol ar gyfer risg, rheolaeth a llywodraethiant. Bydd y Pwyllgor Archwilio a Risg yn cyfarfod gyda’r Bwrdd Ymddiriedolwyr yn flynyddol i drafod eu hadroddiad blynyddol. Bydd gan y pwyllgor hwn Gadeirydd annibynnol a’r aelodaeth yn cynnwys 3 o ymddiriedolwr yr Urdd.

Rôl y Pwyllgor Archwilio a Risg

Dyma drosolwg o brif gyfrifoldebau’r Pwyllgor:

  • Gorchwylio’r broses wrth benodi neu ailbenodi Archwilwyr Allanol.
  • Monitro yn flynyddol perfformiad yr archwilwyr Allanol.
  • Trafod gyda’r archwilwyr materion sydd wedi codi yn ystod yr archwiliad, gan gynnwys y llythyr rheoli gan yr Archwilwyr Allanol a chynnwys ymatebion y rheolwyr; a barn ffurfiol yr Archwilwyr Allanol.
  • Craffu ar y materion canlynol, a chytuno ar argymhelliad / argymhellion i’r Bwrdd fel bo’n briodol:

- Adroddiad yr Ymddiriedolwyr a Datganiadau Ariannol blynyddol.
- Y llythyr cynrychiolaeth cyn ei argymell i’r Bwrdd Ymddiriedolwyr ei ystyried a chymeradwyo.

  • Adolygiad rheolaidd o Bolisi Risg a chofrestr Risg yr Urdd.
  • Unrhyw ddiwygiadau i bolisïau’r sefydliad ar ddatgan buddiannau, gwrth dwyll, prosesau ‘chwythu chwiban’ a threfniadau ar gyfer ymchwiliadau arbennig.
  • Adolygiad rheolaidd buddiannau’r Bwrdd Ymddiriedolwyr a’r Tîm Rheoli.
  • Diwygiadau i gylch gorchwyl y Pwyllgor (fel arfer yn dilyn gwerthusiad blynyddol o’i berfformiad ei hun).
  • Gorchwylio’r broses i ddatblygu a rheoli strategaeth a pholisi buddsoddi o fewn fframwaith strategaeth a risg wedi eu diffinio gan y Bwrdd.
  • Asesu ac adolygu'r strategaeth a pholisi buddsoddi a risg.
  • Asesu a chymeradwyo i’r Bwrdd unrhyw newidiadau i’r buddsoddiadau.

Recriwtio Cadeirydd Annibynnol

Rydym am benodi cadeirydd annibynnol i’r Pwyllgor Archwilio a Risg.

Sut i ymgeisio