Cadeirydd Pwyllgor Archwilio a Risg

Prif bwrpas y rôl

  • Cadeirio cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Risg.
  • Monitro'r rhaglen waith cylch gorchwyl y Pwyllgor Archwilio a Risg.
  • Sicrhau bod y pwyllgor yn gwneud penderfyniadau clir ar strategaeth, rheolaeth ariannol a rheoli risg.
  • Rheoli cyfarfodydd mewn modd hyderus ac effeithiol er mwyn hwyluso cynhwysedd cyfranogiad a phenderfyniadau clir.
  • Datblygu'r pwyllgor a sicrhau bod aelodau'n cael eu cynnwys a'u cefnogi'n briodol.
  • Cynrychioli'r sefydliad pan fo hynny'n briodol a chynorthwyo i ddatblygu perthnasoedd â rhanddeiliaid allweddol.
  • Cyflwyno adroddiad llafar ac ysgrifenedig byr i’r Bwrdd Ymddiriedolwyr yn flynyddol, i gyd fynd â chwblhau cyfrifon yr Urdd, gan grynhoi'r gwaith a wnaed yn ystod y flwyddyn ac yn datgan barn am reolaeth fewnol a rheoli risg y sefydliad.

Manyleb person

  • Profiad ar lefel bwrdd, gan gynnwys gwasanaethu fel Cadeirydd a/neu aelod o bwyllgorau archwilio a risg Profiad helaeth o gadeirio byrddau
  • Profiad ariannol diweddar a pherthnasol a chymhwysedd mewn cyfrifeg a/neu archwilio
  • Arbenigedd yn egwyddorion ac arferion rheoli risg effeithiol
  • Y gallu i weithredu fel Cadeirydd effeithiol
  • Y gallu i arfer barn annibynnol a meddwl yn wrthrychol
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf ac effeithiol
  • Dealltwriaeth o egwyddorion ac arferion llywodraethu corfforaethol da.
  • Dealltwriaeth o aelod-sefydliadau dielw sydd â chyfrifoldeb er budd y cyhoedd
  • Gallu i weithredu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Manylion pellach

  • Darperir cefnogaeth weinyddol i’r Cadeirydd i gyflawni’r rôl hon.
  • Mae hwn yn benodiad heb dâl ac am gyfnod o 3 mlynedd.
  • Os am sgwrs bellach cysylltwch â Chyfarwyddwr Cyllid yr Urdd: gwennowilliams@urdd.org 

Gwybodaeth ychwanegol

Sut i ymgeisio ac amserlen penodi

Anfonwch y canlynol at catrinj@urdd.org, Pennaeth Polisi Grantiau'r Llywodraethu:

  • CV diweddar sy'n dangos hanes eich gyrfa (dim mwy na 2 ochr A4).
  • Datganiad yn egluro pam fod gennych ddiddordeb yn y rôl hon gan fanylu ar eich profiad wrth gyflawni rôl debyg a chyfrifoldebau’r Cadeirydd (hyd at 300 o eiriau).

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10:00, 9 Medi 2024.

Cyfweliadau: wythnos sy'n dechrau 23 Medi 2024.

Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn cadarnhau’r apwyntiad: 1 Hydref 2024.

Ymgeisydd llwyddiannus i ddechrau ei dymor yn y swydd: Hydref 2025 am gyfnod o 3 mlynedd.