Mae'r Urdd yn elusen ac yn cael ei oruchwylio gan Fwrdd Ymddiriedolwyr. Mae gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr gyfrifoldeb ac atebolrwydd cyffredinol am bopeth y mae'r elusen yn ei wneud.
Rydym yn gwerthfawrogi arbenigedd ein hymddiriedolwyr. Maent yn wirfoddolwyr sydd yn rhannu eu sgiliau, arbenigedd a phrofiad i gefnogi staff yr Urdd i gyflawni ei strategaeth a'i amcanion.
Ar Fwrdd Ymddiriedolwyr yr Urdd, mae 2 le wedi eu neilltuo i aelodau iau 18-25 oed. Mae pob ymddiriedolwr yn gwasanaethu am gyfnod cychwynnol o 3 blynedd, ac yn dilyn hynny mae opsiynau i ail-ethol am gyfnod pellach.
Mae ymddiriedolwyr yr Urdd fel arfer yn cyfarfod yn ffurfiol hyd at 5 gwaith y flwyddyn i adolygu gwaith yr elusen a gwneud unrhyw benderfyniadau mawr am ei strategaeth.
Mae strwythur llywodraethu’r Urdd yn cynnwys 6 bwrdd strategol sy’n adrodd yn ôl i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr.
Mae gan yr Urdd 81 o wirfoddolwyr ar ei byrddau canolog.