Dadorchuddio Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd 2023

Dadorchuddiwyd Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023 heno (nos Wener 28 Ebrill) mewn noson arbennig yng Ngwesty Parc y Strade yng nghwmni gwirfoddolwyr, staff a chefnogwyr yr Urdd, yn ogystal â’r siaradwr gwadd, y cyflwynydd BBC Huw Edwards.

Rhoddir y Gadair eleni gan Gwmni T Richard Jones Cyf o Betws. Bedwyn Rees o ardal Hermon, Cynwyl Elfed sydd wedi ei chynllunio a’i chreu. Yn berchennog ar gwmni teuluol Cymraeg; Old Oak Kitchens, mae’n arbenigo mewn creu ceginau a dodrefn â llaw.

Meddai Bedwyn: “Mae’n fraint i mi gael y cyfle yma i greu Cadair Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023 gan fod yr Urdd ac yn benodol Aelwyd Hafodwenog wedi chwarae rhan bwysig yn fy mywyd.  Roedd y mudiadau hyn yn wraidd i ddatblygu ffrindiau oes â chael profiadau gwerthfawr.”

Ardal amaethyddol a diwydiannol yr Eisteddfod sydd wedi ysbrydoli’r Gadair, a gellir gweld y dylanwad yn amlwg yn siâp y breichiau, y wlanen ar y glustog a dail derwen aur sy’n cynrychioli’r Hen Dderwen - rhan annatod o hanes Caerfyrddin.

Roedd Bedwyn yn awyddus i sicrhau mai deunyddiau lleol oedd yn cael eu defnyddio i greu’r gadair; “Derw Cymreig yw’r pren.  Mae’r gwlân wedi ei wehyddu yn Llanymddyfri gan Haydn Sinclair yn arbennig i’r Gadair. Mae’r clustogwaith wedi ei wneud yn Llangadog gan Mick Sheridan, ac yna’r dail derwen aur wedi eu gwneud yn ardal Capel Iwan ger Castell Newydd Emlyn gan Elen Bowen.”

Mae stori’r Goron yn un ddifyr ac yn gywaith rhwng trigolion, disgyblion a chrefftwyr y Sir. Rhoddir y Goron eleni gan gwmni teledu Tinopolis.  Crëwyd Coron Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin gan grŵp o grefftwyr sydd â chysylltiad gyda ysgolion uwchradd yr ardal; sef Luned Hughes, Richard Davies ac Endaf Price.

Roedd cael mewnbwn pobl ifanc y Sir yn bwysig i’r pwyllgor. Cafodd disgyblion yr ardal gyfle i rannu syniadau a phenderfynwyd mai amaeth, diwydiant, traddodiadau lleol a’r Afon Tywi fyddai’r flaenoriaeth yn nyluniad Coron Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin.

Mae Sir Gar yn frith o wahanol ddiwydiannau, gan gynnwys y diwydiant copr, hefyd y diwydiant tun yn Llanelli. Mae’r ardal yn cael ei alw’n Tinopolis, a gan mai cwmni Tinopolis sydd wedi noddi’r Goron roedd yn bwysig cynnwys tun fel rhan o’r cynllun.

Mae fframwaith cwrwgl, sy’n adnabyddus iawn yn Sir Gar, wedi ei ddefnyddio ben i waered i greu’r cap ac arian yn creu’r clymau. Ar frig y Goron, mae llinell yn dangos taith y Porthmyn dros fryniau a dyffrynnoedd yr ardal. Mae llinell trwy ganol y Goron yn adlewyrchu taith yr Afon Tywi o’i tharddiad uwchlaw Brianne lawr i Lansteffan.

Dewisodd gwmni Tinopolis linell o waith William Williams Pantycelyn; “Mae dy eiriau fel gwin” ac mae’r grefftwraig Mari Bennet wedi creu ysgrythur y geiriau hynny yn gywrain o fewn yr afon ar y Goron. Mae bathodyn yr Urdd hefyd i’w weld.

Meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau: “Rydym yn edrych ymlaen yn arw at Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin ac yn gobeithio’n fawr y bydd teilyngdod, er mwyn i bobl fwynhau campwaith y Gadair a’r Goron yma am flynyddoedd i ddod. Diolch i’r crefftwyr, y pwyllgorau a’r noddwyr am eu gwaith caled a’u cefnogaeth, yn sicrhau fod gan Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin wobrau unigryw sy’n adlewyrchu diwylliant a hanes cyfoethog yr ardal hyfryd yma o Gymru”.

Cynhelir Eisteddfod Sir Gaerfyrddin yn Llanymddyfri rhwng y 29 Mai - 3 Mehefin. Bydd Seremoni’r Cadeirio yn cael ei gynnal ar y dydd Iau a Seremoni’r Coroni dydd Gwener 2il o Fehefin.