Dros ddau ddiwrnod (28 Chwefror – 1 Mawrth) bydd staff yr Urdd yn cynnal sesiynau Chwarae yn Gymraeg i blant blwyddyn 5 a 6 yn Galescoil Thaobh na Coille, ysgol gynradd Wyddeleg yn Ne Dulyn. Drwy’r sesiynau chwaraeon a chelfyddydol bydd yr Urdd yn cyflwyno Cymru, ein hiaith, diwylliant a’n gwlad i gynulleidfa newydd.
Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd:
“Rwy’n hynod o falch o fod yn Nulyn ar Ddydd Gŵyl Dewi i lansio Chwarae yn Gymraeg ar lwyfan rhyngwladol. Mae Chwarae yn Gymraeg yn ymgyrch gan yr Urdd sydd yn rhoi cyfle i blant ddysgu Cymraeg wrth gael hwyl tu allan i’r dosbarth.
“Yng Nghymru mae’r Gymraeg yn berchen i bawb. Fel Mudiad ein nod yw cysylltu â phobl ifanc drwy ddefnyddio dulliau cyfoes i gyflwyno’r iaith Gymraeg i gynulleidfa newydd. Gwyddwn am bwysigrwydd yr iaith Wyddeleg i bobl Iwerddon, felly mae’n hynod gyffrous i ni gael dechrau ein taith Ewropeaidd mewn ysgol Gaelscoil.
“Fel rhan o’r ymweliad bydd staff yr Urdd yn cynnal sesiynau chwaraeon a chelfyddydol hefo plant ysgol Galescoil Thaobh na Coille. Byddwn yn cyflwyno Cymru, ein hiaith a’n diwylliant drwy gynnal sesiynau chwaraeon a chelfyddydol sydd yn cynnwys cyflwyniad syml i eirfa Gymraeg. Bydd y sesiynau yn cynnig cyfleodd i’r plant ddysgu sgiliau newydd a magu hyder, yn ogystal â’r cyfle i ddysgu ychydig o ddawnsio gwerin wrth i ni gynnal Twmpath i gloi’r ymweliad!”
Nid Iwerddon yw’r wlad gyntaf tu allan i Gymru i gynnal sesiynau Chwarae yn Gymraeg. Ym mis Tachwedd, aeth tîm o staff a llysgenhadon ifanc yr Urdd â Chwarae yn Gymraeg i ysgolion yn Doha a Dubai fel rhan o ymgyrch Cwpan y Byd Tîm Cymru 2022. Cafwyd ymateb arbennig gan yr holl ddisgyblion wrth i gynulleidfa newydd gael y cyfle i ddysgu am Gymru, ein hiaith a’n diwylliant ochr arall y byd.