Heno (nos Iau 22 Mehefin) mewn cyfarfod cyhoeddus yn Llangefni, cyhoeddodd Urdd Gobaith Cymru mai Ynys Môn fydd cartref Eisteddfod yr Urdd 2026.
Mewn cyfarfod cyhoeddus yn Ysgol Corn Hir, cytunodd neuadd o wirfoddolwyr a chefnogwyr i estyn gwahoddiad i gynnal Eisteddfod yr Urdd 2026 yn Ynys Môn. Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal rhwng 25-31 Mai 2026.
Dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau: “Ar ran yr Urdd rwy’n falch o gyhoeddi mae Ynys Môn fydd cartref Eisteddfod yr Urdd 2026. Braf iawn oedd gweld cefnogaeth unfrydol gan gynrychiolwyr ar hyd yr Ynys yn y cyfarfod heno i wahodd Eisteddfod yr Urdd nôl i Ynys Môn yn 2026.
“2004 oedd y tro diwethaf i Eisteddfod yr Urdd groesi’r bont ac ymweld ag Ynys Môn. Fel Mudiad rydym yn edrych ymlaen yn fawr i ddychwelyd unwaith eto yn 2026 ac yn diolch o galon i Gyngor Sir Ynys Môn, ein hieuenctid, a’r holl wirfoddolwyr am eu brwdfrydedd a’u cefnogaeth arbennig.”
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi: “Rydw i wrth fy modd bod Urdd Gobaith Cymru wedi cadarnhau ei fod wedi dewis Ynys Môn fel lleoliad Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar gyfer 2026.
“Mae eisoes llawer o frwdfrydedd a pharodrwydd yn lleol i groesawu’r Eisteddfod – un o ddigwyddiadau ieuenctid mwyaf Ewrop – ac mae’n gyfle unigryw i arddangos Ynys Môn ar lefel genedlaethol.”
“Hoffwn ddiolch i fy nghyd aelodau o’r Cyngor Sir am eu cefnogaeth unfrydol i ddod ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i’r Ynys. Rydym ni gyd yn cydnabod ei phwysigrwydd o ran ein pobl ifanc, yr economi leol a’r Gymraeg.”
Eisteddfod yr Urdd yw gŵyl ieuenctid fwyaf Cymru sydd yn denu 75,000 o gystadleuwyr a dros 100,000 o ymwelwyr i’r Maes yn flynyddol.
Wedi Eisteddfod hynod lwyddiannus yn Llanymddyfri eleni, mae bwrlwm a chynnwrf yr ŵyl yn barod i’w deimlo ar hyd Maldwyn, yr ardal fydd yn cynnal Eisteddfod yr Urdd y flwyddyn nesaf. Cynhelir Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 ar Fferm Mathrafal ger Meifod rhwng 27 Mai – 1 Mehefin 2024.
Cyhoeddwyd yn gynharach eleni mai Parc Margam fydd cartref Eisteddfod yr Urdd 2025 wrth i’r ŵyl ddychwelyd i Gastell-nedd Port Talbot am y tro cyntaf ers 2003.