Ar ddydd Sadwrn, 6 Awst 2022, bydd yr Urdd a’r Crawshays – gyda chefnogaeth Undeb Rygbi Cymru - yn cynnig gweithgareddau a sesiynau chwaraeon i annog a meithrin sêr y dyfodol, cyn i dimoedd rygbi merched a bechgyn Dan 18 yr Urdd a’r Crawshays fynd benben â’i gilydd ar gae Stadiwm CSM. Mae’r digwyddiad yn deyrnged i gêm hanesyddol a gynhaliwyd i nodi carreg filltir yr Urdd yn 50 oed. I gloi’r diwrnod, cynhelir gêm arbennig rhwng RGC Gwrthryfelwyr a RGC Barbariaid am 5:30yh. Bydd y gemau Dan 18 rhwng yr Urdd a’r Crawshay’s yn cael eu ffrydio’n fyw ar sianel YouTube a Facebook yr Urdd.
Cyn y gemau prynhawn, bydd Tîm Chwaraeon yr Urdd yn cynnal Camp Rygbi yn y Stadiwm rhwng 9:30y.h – 12y.h. Mae’r Camp Rygbi yn gyfle i blant rhwng 7 a 11 oed i ddysgu ac ymarfer sgiliau o dan hyfforddiant Tîm Chwaraeon yr Urdd. Dim ond lle i 30 o blant sydd yn y Camp Rygbi, ac mae angen cofrestru diddordeb o flaen llaw: bit.ly/CofrestruUrdd
Hanner can mlynedd yn ôl, ar 26 Ebrill 1972, daeth sêr disgleiriaf timau rygbi Cymru, Llewod Prydain ac Iwerddon at ei gilydd yn stadiwm Parc yr Arfau, Caerdydd i chwarae mewn gêm i ddathlu hanner-canmlwyddiant yr Urdd. Gofynnwyd i Carwyn James a Barry John i godi tîm o gewri i wynebu ei gilydd. Roedd tîm Barry John i gynnwys yn bennaf aelodau o dîm rygbi cenedlaethol Cymru a gipiodd Coron Driphlyg a’r Bencampwriaeth y flwyddyn flaenorol – a’r rhan fwyaf ohonynt yn dal i’w hystyried eu hunain yn aelodau o’r Urdd. Roedd pymtheg Carwyn James i gynnwys yn bennaf rai o’r ‘Llewod’ o Loegr, Yr Alban ac Iwerddon, oedd yn fwy na pharod i ymuno yn y dathlu er budd prif fudiad ieuenctid Cymru.
Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, “Nid yn unig yw’r achlysur yma yn ffordd unigryw o ddathlu canmlwyddiant yr Urdd ynghyd â thîm y Crawshays, ond mae hefyd yn ffordd o deyrnged i gêm rygbi go arbennig a gynhaliwyd 50 mlynedd yn ôl i ddathlu hanner canrif o’r Urdd.
“Roedd y gêm honno yn un hanesyddol am fwy nag un rheswm – gan gynnwys cais gorau’r noson gan Barry John, o fewn tri munud i’r diwedd. Ychydig a wyddai mai dyna fyddai gêm olaf Barry cyn iddo ymddeol o chwarae rygbi, ac mai ei gais munud olaf yng ngêm yr Urdd fyddai ei gais olaf am byth.
“Mae’r Urdd bellach yn dathlu’r 100, a dyma gyfle hollol unigryw i’n haelodau unwaith eto. Mae’r gemau hyn yn gyfle i feithrin talent y dyfodol ac yn blatfform go arbennig i’n chwaraewyr ifanc, a dymunaf bob hwyl i’r holl chwaraewyr sy’n cymryd rhan.
“Hoffwn ddiolch i URC am eu partneriaeth barhaus ac am wneud y digwyddiad yma’n bosib, yn ogystal â Stadiwm CSM am ein cael yma heddiw. Diolch hefyd i’r holl staff a’r gwirfoddolwyr - yn drefnwyr, hyfforddwyr a dyfarnwyr - sy’n gweithio’n ddiflino drwy gydol y flwyddyn i roi profiadau a chyfleoedd arbennig i’n pobl ifanc ledled y wlad i fwynhau chwarae rygbi a chymdeithasu gyda’u ffrindiau.”
Dywedodd Cyfarwyddwr URC Geraint John, “Rydym wrth ein boddau ein bod yn gallu cefnogi’r dathliad canmlwyddiant dwbl hwn. Mae’r Urdd a’r Crawshays yn bartneriaid gwych i helpu tyfu'r gêm gymunedol ac o ran darparu cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu ac arddangos eu talentau fel chwaraewyr, hyfforddwyr a gweinyddwyr. Mae'r ddau sefydliad yn gwbl falch o'r rôl maen nhw'n ei chwarae wrth ddatblygu talent rygbi Cymru ac rwy'n siŵr y bydd y ddwy gêm Dan 18 yn datgelu chwaraewyr talentog ar gyfer dyfodol y gêm yma yng Nghymru.”