Mae Urdd Gobaith Cymru yn estyn gwahoddiad i holl ysgolion y wlad i’r Jambori, fydd yn cael ei gynnal yn fyw ar Zoom ar 10 Tachwedd ac yn cael sylw byw ar BBC Radio Cymru a Radio Wales. Bydd yn cael ei gyflwyno gan gyflwynwyr Stwnsh Sadwrn S4C ac yn cynnwys caneuon newydd sbon ar thema Cwpan y Byd yn ogystal â rhai o’r hen ffefrynnau, ac uchafbwynt y canu fydd Dafydd Iwan yn canu Yma o Hyd.
Yn dilyn y llwyddiant ym mis Ionawr pan dorrwyd Record y Byd Guinness gyda thros 95,000 o blant ysgol yn bresennol yn eu parti pen-blwydd, mae’r Urdd wedi dewis fformat tebyg o gofrestru i ddod i ddigwyddiad Zoom byw. Eu nod yw i bob ysgol gynradd yn y wlad gofrestru ar gyfer y Jambori, a allai olygu dros 250,000 o blant.
Meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Roedden ni wastad wedi meddwl am gael Jambori canmlwyddiant yn yr hydref, gan ein bod ni eisiau dod â phlant ysgolion Cymru at ei gilydd ar gyfer digwyddiad hwyliog a chynhwysol. Ond gyda Chymru’n cyrraedd Rownd Derfynol Cwpan y Byd, roedd rhaid i ni gefnogi'r tîm a rhoi hwb haeddiannol iddyn nhw gan holl blant ysgolion cynradd y wlad.
“Mae’n hanfodol bwysig bod yr Urdd yn gwneud ei hunan yn hygyrch nid yn unig i blant sy’n siarad Cymraeg ond i bob plentyn ysgol yn y wlad, a gan taw ni yw gwlad y gân, pa ffordd well o ddod â phawb at ei gilydd na thrwy fiwsig a’n Jamboris enwog. Rydyn ni i gyd yn gwybod mai arwyddair y Gymdeithas Bêl-droed yw Gorau Chwarae Cyd-Chwarae, felly beth am Gorau Canu Cydganu ar gyfer y Jambori!”
Bydd y Jambori hefyd yn cynnwys negeseuon arbennig gan y Prif Weinidog a gan chwaraewyr tîm Cymru, yn ogystal ag un o arwyr y genedl, Dafydd Iwan, yn canu Yma o Hyd yn fyw i’r degau o filoedd o blant ysgol ar 10 Tachwedd. Yn gyflym iawn, mae Yma o Hyd wedi dod yn anthem answyddogol i dîm Cymru ac mae Dafydd Iwan wedi dod yn ôl i lygad y cyhoedd o’r herwydd, gan ddod yn fasgot answyddogol newydd i’r Gymdeithas Bêl-droed ar yr un pryd.
Meddai Dafydd Iwan am Jambori Cwpan y Byd yr Urdd: “Rhaid i ni beidio diystyru’r effaith mae’r Urdd wedi’i chael ar iaith a diwylliant Cymru. Fe sefydlwyd y mudiad gan mlynedd yn ôl ac un o’i brif bwrpasau oedd diogelu’r iaith ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, a gyda mymryn o gefnogaeth gan ambell un fel fi yn y 70au, S4C yn yr 80au a nawr Llywodraeth Cymru yn yr 21ain ganrif, mae wedi llwyddo, ac ry’n ni Yma o Hyd!
“Mae clywed dysgwyr Cymraeg a’r di-Gymraeg yn canu Yma o Hyd gyda’r fath angerdd yn dangos grym diwylliant a cherddoriaeth, mae hefyd yn dangos grym pêl-droed a’r potensial sydd ganddo i gael effaith gadarnhaol. Felly, diolch i’r Gymdeithas Bêl-droed a’r Urdd am wneud i’r Jambori Cwpan y Byd ddigwydd, am greu digwyddiad i’r genhedlaeth nesaf gael cydganu yn Gymraeg efo’i gilydd. Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at gael cymaint o ysgolion, Cymraeg a Saesneg, yn canu efo fi ar 10 Tachwedd, achos mae’r tîm cenedlaethol yn haeddu’r hwb fwya allwn ni roi iddyn nhw!”
Bydd caneuon y Jambori yn cynnwys rhai o’r hen ffefrynnau fel Aderyn Melyn yn ogystal â dwy gân Cwpan y Byd newydd sbon a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur gan un o’n prif gyfansoddwyr, y gantores adnabyddus Caryl Parry Jones. Er mwyn sicrhau bod y Jambori yn hwyl ac yn hygyrch i bawb, mae yna eiriau Saesneg ar gyfer pob cân yn ogystal â fersiynau ffonetig ar gyfer dysgwyr a’r di-Gymraeg fel ei gilydd, gyda’r nod y bydd pawb yn canu wyth cân yn Gymraeg ar y diwrnod.
Meddai Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney am y bartneriaeth: “Mae’r hyn mae’r Urdd yn ei wneud i ennyn diddordeb ac annog pobl ifanc drwy chwaraeon a diwylliant yn glodwiw iawn ac fe fyddai’n braf gweld ei efelychu ledled y byd. Rydyn ni’n falch iawn o fod yn bartner iddyn nhw ar gyfer Jambori Cwpan y Byd. Yn ogystal â’n gwaith gyda phêl-droed plant llawr gwlad a Chyngor Ieuenctid y Gymdeithas Bêl-droed, rydyn ni’n mawr obeithio gwneud mwy gyda’r Urdd yn y dyfodol. Does dim dwywaith amdani: Gorau Chwarae Cyd-Chwarae.
“Mae’r Gymdeithas Bêl-droed yn ddiolchgar iawn i’r Urdd ac i blant ysgol Cymru am roi cystal hwb i’r tîm, diolch yn fawr i chi!”
Yn ogystal ag annog pawb i ymarfer y caneuon ar gyfer y Jambori, mae’r Urdd yn gofyn i ysgolion ganiatáu i bawb wisgo coch ar 10 Tachwedd mewn ymgais i droi’r wlad yn goch i gefnogi’r ffaith ein bod yn mynd i Gwpan y Byd. Mae cofrestru ar gyfer y Jambori yn golygu cael eich cynnwys ar fap o Gymru, ac mae manylion cofrestru, Cwestiynau Cyffredin a’r holl ganeuon ar gael i’w lawrlwytho ar wefan y Jambori www.urdd.cymru/Jambori.