Diolch i gefnogaeth ariannol o £150,000 gan Lywodraeth Cymru bydd teuluoedd incwm isel yn gallu hawlio tocynnau am ddim i Faes Eisteddfod yr Urdd eleni. Mae'r cyllid yn gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru drwy eu Cytundeb Cydweithio. Cynhelir yr Eisteddfod yn Llanymddyfri rhwng 29 Mai – 3 Mehefin.
Mae dwy ffordd i deuluoedd incwm isel hawlio tocynnau am ddim i Faes Eisteddfod yr Urdd eleni:
- Aelodaeth £1 yr Urdd - bydd yr Urdd yn e-bostio teuluoedd sydd yn derbyn Aelodaeth £1 yr Urdd hefo manylion hawlio tocynnau, ynghyd â chod disgownt unigryw i’r cyfri hwnnw.
- Ffurflen gais – i hawlio tocyn incwm isel bydd gofyn i deuluoedd lenwi ffurflen gais ar wefan yr Urdd. Bydd angen i berson neu deulu nodi eu bod yn gymwys i un o’r meini prawf cyn gellir gwneud cais am docyn. Bydd manylion llawn y meini prawf ar gael ar y wefan yr Urdd.
Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd:
“Ar ran yr Urdd hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth ariannol sy’n ein galluogi i gynnig mynediad am ddim i deuluoedd incwm isel i Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023.
“Mae dros 75,000 o blant a phobl ifanc yn cystadlu mewn Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth. Yn barod fel mudiad rydym yn barod yn cynnig Aelodaeth £1 yr Urdd i deuluoedd ac unigolion sydd yn derbyn cefnogaeth talebau cinio ysgol am ddim, grant cynllun gwisg ysgol neu lwfans cynhaliaeth addysg 16-18 fel cymorth ariannol. Eleni mae’r Urdd hefyd wedi ymrwymo i gynnig mynediad am ddim i Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth i’r rhai sydd yn derbyn Aelodaeth £1 yr Urdd.
“Bydd y cyfraniad o £150,000 gan Lywodraeth Cymru yn cynorthwyo’r Urdd i barhau gyda’n hymrwymiad i bawb, gan sicrhau cyfle i bawb fynychu a phrofi cyffro Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin. Ein gobaith fel mudiad yw sicrhau ‘Urdd i Bawb’ a bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael cyfle i gystadlu ac elwa o weithgareddau’r Urdd.”
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
“Mae Eisteddfod yr Urdd yn un o uchafbwyntiau diwylliannol ein calendr Cymreig, ac yn ffordd wych i'n plant a'n pobl ifanc weld a chlywed ein hiaith, ei siarad eu hunain, a chymryd rhan yn y digwyddiadau cystadleuol a chymdeithasol niferus sydd ar gael. Rwy’n falch bydd y cyllid hwn yn helpu fwy o deuluoedd i fanteisio ar yr hyn sydd ar gael yn ystod y digwyddiad.”
Dywedodd Sian Gwenllian, Aelod Dynodedig Plaid Cymru: “Dyma ddatblygiad hollbwysig i sicrhau bod cymaint o bobl â phosib yn ymweld a chymryd rhan yn Eisteddfod yr Urdd. Mae Plaid Cymru yn falch i gydweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau’r cyllid i ddarparu’r cyfle yma.”
Yn arwain fyny at yr Eisteddfod, bydd yr Urdd hefyd yn cyd-weithio â Chyngor Sir Gar, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a sefydliadu sydd yn cefnogi teuluoedd incwm isel i sicrhau fod y wybodaeth yn cyrraedd pobl gall elwa o’r cynllun.
Bydd tocynnau Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023 yn mynd ar werth dydd Mawrth 28 Mawrth, 2023. Gellir prynu tocynnau neu hawlio tocyn mynediad am ddim drwy fynd i www.urdd.cymru/eisteddfod.