Mewn cyfarfod cyhoeddus, cytunodd neuadd orlawn o wirfoddolwyr a chynrychiolwyr o’r sir i estyn gwahoddiad i gynnal Eisteddfod yr Urdd 2025 ym Mharc Margam sydd o fewn Cyngor Castell-nedd Port Talbot .
Dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau:
“Ar ran yr Urdd rwy’n falch o gyhoeddi mae Parc Margam fydd cartref Eisteddfod yr Urdd 2025. Braf iawn oedd gweld cefnogaeth unfrydol gan gynrychiolwyr o’r ardal heno i wahodd Eisteddfod yr Urdd nôl i Gastell-nedd Port Talbot.
“2003 oedd y tro diwethaf i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Pharc Margam. Fel Mudiad rydym yn edrych ymlaen yn fawr i ddychwelyd unwaith eto yn 2025 ac yn diolch o galon i Gyngor Castell-nedd Port Talbot am eu cefnogaeth arbennig.”
Dywedodd y Cynghorydd Alun Llewelyn, Dirprwy-Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Mae hon yn anrhydedd arbennig i Barc Gwledig Margam ac i Gastell-nedd Port Talbot yn ei gyfanrwydd, ac yn bleidlais wych o ffydd yn yr ardal, y parc a'r ffordd broffesiynol y mae'n cael ei redeg.
“Edrychwn ymlaen at groesawu'r llu o ymwelwyr fydd yn mynychu Eisteddfod yr Urdd 2025 ac yn annog pawb sy'n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot i fanteisio ar gael yr ŵyl wych yma ar ein stepen drws."
Ychwanegodd y Cynghorydd Jeremy Hurley, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a Llesiant Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Eisteddfod yr Urdd yw gŵyl ieuenctid deithiol fwyaf Ewrop ac mi fydd yn ddathliad o'r iaith Gymraeg a'n diwylliant. Bydd hefyd yn hwb i economi leol Castell-nedd Port Talbot drwy groesawu miloedd o ymwelwyr i'n Sir.”
Eisteddfod yr Urdd yw gŵyl ieuenctid fwyaf Cymru sydd yn denu 75,000 o gystadleuwyr a dros 100,000 o ymwelwyr i’r Maes yn flynyddol. Bydd Eisteddfod yr Urdd 2025 yn cael ei gynnal ar Barc Margam rhwng 26 - 31 Mai 2025.
Cyn hynny bydd yr ŵyl ieuenctid yn ymweld â Llanymddyfri rhwng 29 Mai – 3 Mehefin eleni, a Fferm Mathrafal ger Meifod i Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024.