Yn ystod y penwythnos bydd ardal Roald Dahl Plass ym Mae Caerdydd yn wledd o gystadlaethau BMX, Sglefryrddio, Pêl Fasged Cadair Olwyn, Sgwtera a dawnsio ‘Breakin’. Bydd categorïau ar gyfer plant, pobl ifanc a’r pencampwyr.
Meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd; “Does dim dwywaith bod ein Hadran Chwaraeon yn darparu cyfleoedd amhrisiadwy i’n plant a’n pobl ifanc, gyda 11,000 ohonynt yn cymryd rhan yn ein 300 clwb chwaraeon yn wythnosol. Mae campau stryd yn tyfu mewn poblogrwydd ac erbyn hyn yn rhan o arlwy'r Gemau Olympaidd, felly mae’n hollbwysig bod ein plant a’n pobl ifanc yn cael cyfle i brofi a datblygu sgiliau yn y campau hyn. Mae’n amserol inni lansio’r Gemau Stryd fel digwyddiad newydd yn ystod blwyddyn ein canmlwyddiant, bydd hi’n brofiad arbennig i’n plant a phobl ifanc i gystadlu ochr yn ochr â sêr y sîn.
“Mae’r Gemau Stryd yn bluen arall i’r rhestr o ddigwyddiadau Chwaraeon Cenedlaethol mae’r Urdd yn ei gydlynu gyda’n partneriaid ac rydym yn gobeithio byddwn ni’n ysbrydoli’r to nesaf o bencampwyr byd. Mae hi’n bwysig tu hwnt i ni fel mudiad ein bod yn parhau i arbrofi, esblygu ac arloesi o ran ein cyfleoedd a'n cynnig i bobl ifanc Cymru.”
Bydd Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon, yn bresennol yn y digwyddiad ddydd Sadwrn, a dywedodd: "Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi Gemau Stryd yr Urdd. Mae'n addo bod yn benwythnos cyffrous o ddigwyddiadau ac yn gyfle i bobl ifanc roi cynnig ar weithgareddau newydd ac arddangos eu doniau ochr yn ochr â rhai pencampwyr yn y maes. Hoffwn ddiolch i Siân, Gary a gweddill tîm yr Urdd am drefnu'r digwyddiad gwych hwn a dymuno'n dda iddynt."
Cymro ifanc sydd wedi cael llwyddiant rhyngwladol yn y maes sglefr fyrddio yw Jordan Sharkey o Wrecsam. Mae’n angerddol am ysbrydoli’r to nesaf ac yn gyffrous iawn i gael bod yn un o Lysgenhadon Gemau Stryd yr Urdd.
“Dwi’n angerddol am helpu plant a phobl ifanc,” meddai Jordan Sharkey. “Doedd dim cyfleoedd i ddatblygu pan o’n iau, dyna oedd yr ysgogiad i sefydlu fy ysgol sglefrfyrddio newydd. Roedd pobl yn dweud nad oedd modd cael gyrfa yn y maes, ond dwi wedi profi bod hynny’n anghywir. Mae’n bwysig i bobl ifanc wybod bod modd gwneud gyrfa o’r hyn ti’n caru ac mae’n ffordd wych o gadw’n heini hefyd. Dwi’n ddiolchgar iawn i’r Urdd am roi platfform gwych i’r campau yma a dwi’n methu aros i fod yno yn cystadlu ac yn rhannu fy sgiliau.”
Yn ogystal â’r cyfle i gystadlu, bydd cyfle hefyd i fwynhau sesiynau blasu yn y campau amrywiol, yn ogystal â gweithdai graffiti, celf stryd, djio a radio. Y cyfan dan arweiniad sêr y sîn, ac am ddim!
Mae James Jones o Abertawe yn bencampwr BMX, bydd yn arwain sesiynau blasu BMX ac hefyd yn beirniadu:
“Dwi wedi cael cyfleoedd gwych trwy fy ngyrfa BMX; cystadlu mewn gwledydd fel Tokyo a Dubai, gwneud sioeau Fformiwla 1, hysbysebion teledu, perfformio mewn panto efo Bradley Walsh a mwy. Dwi’n awyddus i ysbrydoli pobl ifanc Cymru i ddilyn eu breuddwydion yn y maes BMX. Mae Gemau Stryd yr Urdd yn gyfle gwych i arddangos bod y Cymry’n llwyddo ar lefel rhyngwladol mewn campau tu hwnt i bêl droed a’r rygbi. Dwi methu aros i fod yno a diolch i’r Urdd am y cyfle”.
Mae’r seren sglefr fyrddio Mathew Pritchard o Gaerdydd yn wyneb cyfarwydd ar y sgrin fawr wedi iddo deithio’r byd yn cystadlu ac yn dangos ei ddoniau yn ei gyfres deledu enwog ‘Dirty Sanchez’;
“Dechreuodd fy siwrne i gyda’r sglefr fyrddio ar strydoedd y Rhath, mae wedi mynd a fi i bob cornel o’r byd sy’n profi bod y campau yma yn agor drysau. Mae’r Urdd wedi trefnu digwyddiad cyffrous, ble bydd plant ac enwogion yn rhannu llwyfan yma yng Nghaerdydd - yn y ddinas dwi’n ei charu! Dwi’n annog pawb o bob oedran i ddod lawr i’r Bae i fwynhau, i ryfeddu at y sgiliau a chael tro arni. Mae hwn yn fenter newydd a chyffrous i’r Urdd ac yn gyfle gwych i’n pobl ifanc. Dwi’n methu aros i fod yno ar fy mwrdd sglefrio yn rhannu fy sgiliau a gweld y plant a’r ‘pro’s wrthi’n cael hwyl yn ein Prif Ddinas.”
I’r rhai sy’n methu bod yno ym Mae Caerdydd, mae’r Urdd wedi sefydlu partneriaeth newydd gyda Ogi - cwmni band eang Cymru, fydd yn galluogi pawb i gael blas o arlwy’r penwythnos yn fyw ar-lein. Bydd hwn yn cael ei ddarlledu’n fyw gan fyfyrwyr Prifysgol Fetropolitan Caerdydd.
“Mae’r Urdd wedi bod yn darparu cyfleoedd cyfoes i bobl ifanc ers cenedlaethau ac a hithau’n flwyddyn y canmlwyddiant, mae sefydlu’r bartneriaeth dechnolegol hyn er mwyn galluogi pobl i fwynhau cyffro digwyddiad diweddaraf yr Urdd o unrhyw le, yn fraint inni yma yn Ogi. Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at y digwyddiad ac i rannu’r cyfan gyda chynulleidfaoedd byd-eang.” Dywedodd Justin Leese, Prif Swyddog Technoleg a Gweithrediadau, Ogi.
Am fanylion llawn y digwyddiad ewch i www.gemaustryd.urdd.cymru / @urddgemaustryd ar Instagram.
Prif bartner masnachol Gemau Stryd yw Ogi, sy’n darparu gwibgysylltiad diwifr rhad ac am ddim cyflym iawn i’r gemau. Mae Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Rhwydwaith Recriwtio Cymruhefyd yn bartneriaid masnachol. Ariannir y Gemau Stryd yn rhannol gan Lywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru.