Ar drothwy Diwrnod Rhyngwladol y Plant, mae’r Urdd wedi datgan ymrwymiad pellach i gefnogi plant a phobl ifanc o gartrefi incwm isel drwy gynnig aelodaeth blwyddyn gyda’r mudiad am £1, yn hytrach na £10.
Yn ôl Prif Weithredwr y mudiad, maent yn chwilio’n barhaus am ddulliau arloesol i sicrhau fod pob plentyn yng Nghymru, beth bynnag fo’u cefndir, yn cael manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt drwy’r Urdd.
Eisoes mae’r cynllun ‘Cyfle i Bawb - Cronfa Gwersyll Haf yr Urdd’ wedi galluogi i gannoedd o blant a phobl ifanc na fyddai fel arall yn cael cyfle i fynd ar wyliau, i fwynhau Gwersyll Haf yng Nglan-llyn, Llangrannog a Chaerdydd. Bydd y gronfa hon yn ailagor ar gyfer ceisiadau gan rieni neu ysgolion ar ran plentyn yn Ionawr 2022.
Meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Roedd ystadegau yn dangos bod tlodi plant yng Nghymru ar gynnydd cyn y pandemig, ond mae’r pandemig wedi effeithio’n sylweddol ar lesiant a gweithgarwch corfforol plant, yn enwedig rheiny o deuluoedd incwm isel.
“Fel sefydliad ieuenctid cenedlaethol rydym yn gyson chwilio am ddulliau arloesol i sicrhau nad yw sefyllfa ariannol teulu yn golygu bod rhaid i blentyn golli cyfle. Mae cynnig cefnogaeth i’n cyd-ddyn yn greiddiol i’n gwaith, ac rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i leddfu effaith y pandemig ar ein hieuenctid ynghyd â’u teuluoedd.”
Mae’r cyhoeddiad wedi’i groesawu gan Gomisiynydd Plant Cymru ynghyd ag ysgolion ar hyd a lled y wlad.
“Mae’r Urdd yn cynnig cyfleoedd i filoedd o blant a phobl ifanc yng Nghymru i fwynhau eu hawliau i gymdeithasu, i ymlacio, i chwarae, ac i ddatblygu eu diddordebau a thalentau,” meddai Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru.
“Mae ymrwymiad yr Urdd i gefnogi plant o bob cefndir i fwynhau’r hawliau yma yn glir yn eu gwaith. Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r ymrwymiad yma wedi cynnwys cynlluniau sbesiffig i blant sydd mewn cyswllt gyda gwasanaethau cymdeithasol, a chefnogaeth arbennig i ffoaduriaid. Mae’r cynnig newydd yn ychwanegu at yr holl waith yma trwy wneud yn siŵr bod eu gweithgareddau yn fforddiadwy ac yn hygyrch i bawb.”
Meddai Iwan Ellis, Pennaeth Ysgol Bro Eirwg, Caerdydd: “Fel ysgol ble mae bron i 30% o’n disgyblion yn gymwys i dderbyn cinio am ddim – a’r nifer yma’n parhau i godi – mae’r cynnig aelodaeth newydd yma gan yr Urdd wedi’i groesawu gan staff a rhieni fel ei gilydd. Mae Covid yn amlwg wedi effeithio yn ariannol ar bawb, ond mi fydd y cynnig yma’n galluogi fod mwy o rieni yn medru ymaelodi eu plant â’r Urdd.”