Nod yr Urdd yw darparu gwasanaeth i blant a phobl ifanc o’r safon uchaf.
Mae darpariaeth yr Urdd yn seiliedig ar berthynas wirfoddol rhwng pobl ifanc a gwirfoddolwyr a staff yr Urdd.
Mae’r Urdd yn parchu barn pobl ifanc gan ystyried eu gofynion, eu dymuniadau, eu diddordebau a’u dyheadau.
Mae Urdd Gobaith Cymru yn croesawu barn, aelodau, rheini/gwarchodwyr a’r cyhoedd ynglŷn â’r gwasanaeth a ddarperir, fel y gellir ei wella os oes angen.
Bydd yr Urdd yn ceisio datrys unrhyw gŵyn mewn ffordd anffurfiol ac mewn ysbryd cydweithredol. Os wedi hynny mae dymuniad i gyflwyno cwyn yn ysgrifenedig, dylid nodi yn glir ‘eich bod yn dymuno gwneud cwyn o dan y drefn cwynion’.
O ganlyniad i ymchwiliad cwyn, bydd yr Urdd yn ystyried os oes angen diweddaru polisïau a/neu weithdrefnau.
Noder bod trefn cwynion ar wahân ar gyfer materion cystadleuol Eisteddfod yr Urdd a dylid cyfeirio at reolau’r Eisteddfod sydd yn y rhestr testunau cyfredol.
Hysbysir y drefn cwynion yn y mannau canlynol:- Llawlyfr arweinyddion, Gwefan Urdd Gobaith Cymru.
Os yw aelod, rhiant/gofalwr(wyr)neu aelod o’r cyhoedd yn anfodlon gydag unrhyw agwedd o ddarpariaeth Urdd Gobaith Cymru, bydd angen dilyn y drefn ganlynol.