Mae’r gwersyll amgylchedd a lles yma mewn lleoliad gwledig, prydferth iawn yn agos at arfordir Sir Benfro, trefi Aberteifi ac Abergwaun, a gerllaw cromlech hanesyddol Pentre Ifan.
Eleni mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn canolbwyntio ar Dlodi. Gyda'r argyfwng tlodi plant presennol i'w weld yng Nghymru ac ar draws y byd, mae'r Urdd a phobl ifanc Cymru wedi dewis canolbwyntio ar y mater hollbwysig hwn.